Aerial photograph of the new estate in Tregarth.

195 o Gartrefi Newydd wedi’u Cwblhau

Mae Tîm Datblygu Adra yn dathlu cwblhau 195 o gartrefi newydd yn ystod blwyddyn ariannol 2024-25, gyda disgwyl i lawer mwy yn y blynyddoedd i ddod.

Mae’r cartrefi newydd yn cynnwys amrywiaeth o opsiynau tai, gan gynnwys tai rhent cymdeithasol, rhent canolradd, a rhent marchnad. Mae’r amrywiaeth hon wedi’i gynllunio i fynd i’r afael â’r galw lleol am gartrefi diogel, gan ddiwallu gwahanol sefyllfaoedd ac anghenion ariannol yn ein cymunedau.

Cafodd mwyafrif y cartrefi Dystysgrif Perfformiad Ynni (EPC) o A, gyda chartrefi oddi ar nwy ac maent wedi’u hadeiladu gan ddefnyddio dulliau adeiladu modern.

Mae’r tai a gwblhawyd yn ddiweddar yn cynnwys Cae Gors, Tregarth, sy’n cynnwys 12 o gartrefi newydd, Cae Ffynnon, Pen y Ffridd, sy’n cynnwys 30 o gartrefi, Plas Penrhos, gyda 39 o fflatiau i bobl dros 55 oed ym Mangor, a Bro Infryn, Glasinfryn, gyda 7 uned ychwanegol wedi’u cwblhau.

Llun o gartrefi newydd yng Nghae'r Gors, Tregarth, gyda arwydd y stad ym mlaen yn llun.
Cae’r Gors, Tregarth
Llun o stad newydd Cae Fynnon, Pen y Ffridd, Bangor
Cae Fynnon, Pen y Ffridd
Llun gorffenedig o dai a byngalo ym Mro Infryn, Glasinfryn.
Bro Infryn, Glasinfryn.
Llun gorffenedig o Plas Penrhos, bloc o 39 o fflatiau.
Plas Penrhos, Bangor

Mynegodd Huw Evans, Pennaeth Datblygu Adra, ei falchder o ddarparu 195 o gartrefi newydd i drigolion lleol ledled gogledd Cymru dros y flwyddyn ddiwethaf.

“Yn ogystal â chwblhau dros 190 o gartrefi newydd, fe wnaethom hefyd sicrhau caniatâd cynllunio ar gyfer sawl safle ledled gogledd Cymru, gan gynnwys 49 o gartrefi ym Modelwyddan, 16 o gartrefi yn Llanwnda, 14 o gartrefi yn Llanrwst, a 47 o gartrefi yn Wrecsam,” meddai.

“Mae ein tîm yn gyffrous i gyrraedd y targedau a osodwyd yn ein cynllun corfforaethol newydd, gyda’r nod o adeiladu 800 o gartrefi cymdeithasol a fforddiadwy newydd yng ngogledd Cymru erbyn 2030. Bydd y cartrefi hyn yn addasadwy i anghenion hirdymor, yn gynaliadwy, ac yn effeithlon o ran ynni, gan fynd i’r afael ag anghenion ein cymunedau.”