Addewid i fuddsoddi mewn tai wrth i ni wrando ar gwsmeriaid
Mae ein cynlluniau i fuddsoddi £18 miliwn i wella ein tai dros y 12 mis nesaf ac adeiladu 150 o dai ychwanegol ar draws Gogledd Cymru i gwrdd â’r galw cynyddol, wedi cael ei amlygu mewn adroddiad adborth cwsmer a gyhoeddwyd yr wythnos hon.
Mae buddsoddi yn ei stoc dai eisoes wedi cael ei nodi fel blaenoriaeth gennym ni ac mae’n adlewyrchu disgwyliadau a dymuniadau tenantiaid am dai cynnes, diogel ac ynni effeithlon, yn ogystal â cheisio cwrdd â’r galw am dai newydd mewn cymunedau lleol.
Mae’r adroddiad hefyd yn gwneud addewid i gwrdd ag anghenion cwsmeriaid trwy ddarparu gwasanaethau dibynadwy sy’n canolbwyntio ar anghenion tenantiaid.
Mae’r adroddiad hefyd yn tynnu sylw at bwysigrwydd cynnwys tenantiaid yn ein gwaith, gwrando ar safbwyntiau tenantiaid a defnyddio’r adborth hwnnw i lunio gwasanaethau.
Yn 2025/26, roedd 87% o denantiaid yn fodlon gyda’r gwasanaethau llinell flaen a ddarparwyd gennym ni.
Derbyniwyd dros 3,500 darn o adborth yn 2025/26 fel rhan o Eich Llais, ein strategaeth cyfranogiad tenantiaid, gyda thenantiaid yn rhannu barn ar amrywiaeth o faterion, gan gynnwys defnyddio systemau egni clyfar, ymddygiad gwrthgymdeithasol, delio gyda thenantiaid newydd a chyfathrebu.
Hefyd, ymwelodd ein timau â 846 o gartrefi ledled Arfon, Dwyfor, Meirionnydd a Gogledd Ddwyrain Cymru fel rhan o ymweliadau stâd, yn trafod materion wyneb yn wyneb gyda thenantiaid.
O ganlyniad uniongyrchol i adborth, fe gyflwynom ni nifer o welliannau, gan gynnwys gwell cyfathrebu am atgyweiriadau ac apwyntiadau cydymffurfio; darparu dulliau ychwanegol o gyfathrebu gyda ni, gan gynnwys cyfarfodydd wyneb yn wyneb a rhoi mwy o gyfle i denantiaid roi adborth ar bynciau sydd fwyaf diddordeb iddyn nhw.
Yn ystod y 12 mis nesaf byddwn yn gwahodd tenantiaid i gymryd rhan mewn prosiect bodlonrwydd cwsmer, adolygiad o wasanaethau tâl gwasanaeth a pheilota hybiau cymunedol i drafod materion wyneb yn wyneb.
Dywedodd Carwyn George, Pennaeth Cwsmeriaid a Chymunedau: “Mae gwneud gwahaniaeth yn un o’n blaenoriaethau allweddol i ni. Rydyn ni yma i wella bywydau ein cwsmeriaid a chymunedau ac yn allweddol i hyn yw gwrando, cynnwys tenantiaid yn y ffordd rydyn ni’n darparu ein gwasanaethau ac ymateb i’w adborth.
“Rydyn ni’n gweithio mewn amseroedd heriol i unigolion a chymunedau sydd dal yn ymdrechu i ddelio â chostau byw sy’n codi. Mae hi’n wirioneddol bwysig bod ni’n parhau i ddarparu’r gwasanaethau i’w cefnogi i ffynnu.
“Byddwn ni’n gwneud hynny trwy barhau i wrando arnynt, eu cynnwys mewn ffordd rydyn ni’n dylunio a llunio gwasanaethau ac adeiladu ymddiriedaeth barhaus gyda’n cwsmeriaid a’n cymunedau.
