Adra yn cael effaith gadarnhaol ar gymunedau lleol
Cyfrannodd gweithgareddau cymdeithas dai Adra, ei phartneriaid a’i chontractwyr dros £12.5 miliwn o werth cymdeithasol i gymunedau ledled gogledd Cymru dros y flwyddyn ddiwethaf.
Mae adroddiad Gwerth Cymdeithasol 2024/25 a gyhoeddwyd heddiw (Dydd Iau, 17 Gorffennaf) yn tynnu sylw at sut mae cymunedau wedi elwa o brosiectau yn ymwneud â phobl, cartrefi, cymunedau, yr amgylchedd, cynhwysiant ariannol, tai â chymorth, cyflogaeth, sgiliau a hyfforddiant, yn ogystal â buddsoddiad cymunedol, yr iaith Gymraeg a diwylliant.
Dyma rai o benawdau’r adroddiad:
- £15 miliwn wedi’i fuddsoddi mewn gwella cartrefi presennol Adra
- 195 o gartrefi newydd wedi’u cwblhau
- 91% o denantiaid yn fodlon bod eu cartref yn ddiogel a saff.
- Mae datrys ymddygiad gwrthgymdeithasol wedi arwain at £725,683 o werth cymdeithasol.
- Cynhaliodd wardeiniaid 506 o archwiliadau tenantiaeth gychwynnol newydd a 1,657 o wiriadau ardal gymunedol
- Cefnogwyd 501 o bobl yng Ngwynedd trwy Cyfri’r Ceiniogau, prosiect sgiliau rhifedd a chynhwysiant ariannol.
- Roedd 202 o atgyfeiriadau at Cyngor ar Bopeth
- Roedd 55% o gyflenwyr Adra wedi’u lleoli yng Nghymru, 95% o’r rheini yng ngogledd Cymru.
- Cyfanswm o £43,748,319 wedi’i wario gyda chyflenwyr lleol yng ngogledd Cymru
Darllenwch ein hadroddiad Gwerth Cymdeithasol yn llawn yma
Mae’r adroddiad yn tynnu sylw at ganlyniadau uchel yr arolwg boddhad tenantiaid – ymhlith y gorau yng Nghymru. Mae hefyd yn tynnu sylw at ymdrechion i ymgynghori ac ymgysylltu â thenantiaid, gyda 1,900 o bobl yn rhannu eu barn.
Mae’r adroddiad hefyd yn amlygu llwyddiant Academi Adra, y fenter sgiliau a hyfforddiant. Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae 164 o bobl wedi derbyn hyfforddiant galwedigaethol mewn adeiladu, sgiliau cwsmeriaid a gweinyddol, cynnal a chadw tiroedd a chyrsiau cefnogi pobl. Cefnogwyd 36 o bobl i mewn i leoliadau gwaith â thâl ac mae 29 o unigolion wedi mynd ymlaen i gyflogaeth amser llawn neu brentisiaeth.
Dywedodd Iwan Trefor Jones, Prif Weithredwr Adra: “Rydym wrth ein bodd yn cyhoeddi’r adroddiad sy’n arddangos ymdrechion ein staff, partneriaid a chontractwyr i gael effaith gadarnhaol ar fywydau pobl, yn ogystal â’r gymuned ehangach.
“Mae’r ymrwymiad hwnnw wedi’i adlewyrchu yn ein Cynllun Corfforaethol. Rydym am adeiladu cartrefi o safon y gall pobl fod yn falch ohonynt; cefnogi ein cymunedau a phobl i ffynnu; datgarboneiddio ein cartrefi, gwella profiad y cwsmer a chryfhau ein busnes.
“Rydym am sicrhau bod contractwyr a gyflogwn i wneud gwaith yn y gymuned yn darparu manteision ychwanegol trwy fuddsoddiad a mentrau yn ein cymunedau.
“Rydym am sicrhau ein bod yn parhau i chwarae rhan wrth adfywio’r economi ranbarthol, gan ddarparu cyfleoedd lleol i bobl leol, tra’n parhau i ddiogelu a gwella ein treftadaeth gyfoethog, ein diwylliant a’r iaith Gymraeg.
Dywedodd Hywel Eifion Jones, Cadeirydd Bwrdd Adra: “Rydym yn gweithio mewn partneriaeth ag amrywiaeth o sefydliadau ac unigolion ar draws gogledd Cymru i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl a sicrhau bod cymunedau’n ffynnu.
“Mae gennym ystod eang o bartneriaid yr ydym yn gweithio gyda nhw bob dydd ac ym mhob math o feysydd, o ddelio â thlodi i ddatblygu cartrefi newydd, o greu cyfleoedd hyfforddi i brosiectau cymunedol sy’n gysylltiedig â’r amgylchedd.
“Drwy gydweithio â’n tenantiaid, staff, partneriaid a chymunedau ehangach, rydym yn gwneud gwahaniaeth ac yn cael effaith gadarnhaol ar fywydau pobl”.
