Adra yn dathlu’r cartrefi cyntaf a adeiladwyd i safonau Passivhaus
Mae Adra, un o’r cymdeithasau tai blaenllaw yng ngogledd Cymru, yn falch o ddathlu cwblhau ystâd arall o gartrefi o ansawdd uchel ac effeithlonrwydd uchel sydd wir eu hangen yn Cae Penrhyn, Plas Penrhyn.
Cafodd y datblygiad gwerth £6 miliwn ei ariannu’n rhannol gan Lywodraeth Cymru trwy Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, gyda’r cartrefi wedi’u hadeiladu ar dir a ryddhawyd gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy ac wedi’u hadeiladu i safonau Passivhaus.
Mae’r datblygiad yn cynnwys wyth tŷ 3 llofft ac wyth tŷ 2 llofft, pedwar byngalo 2 llofft ac un byngalo addasedig 2 llofft ar gyfer gadair olwyn, pob un â mannau parcio dynodedig.
Yn ddiweddar, croesawodd Adra ddirprwyaeth o Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy i weld y cartrefi newydd wedi eu cwblhau.
Mae’r cartrefi hyn wedi’u hinswleiddio’n dda iawn, â ffenestri triphlyg, ac yn cynnwys sêl aer dynn i leihau colli gwres. Mae gan bob cartref systemau awyru mecanyddol ac adfer gwres, gan echdynnu aer stel a dod â aer ffres wedi’i gynhesu gan uned cyfnewid gwres, gan leihau’r angen am wresogi. Y prif ffynhonnell wresogi ar gyfer y cartrefi yw gwres “goddefol” / “eilaidd” o offer trydanol bob dydd yn y cartref, enillion solar a hyd yn oed gwres corfforol gan y trigolion.
Mae paneli solar ar y to yn cyfrannu at bweru’r offer trydanol, gan arwain at ôl troed carbon isel iawn a chostau rhedeg isel. Mae’r cartrefi hefyd wedi’u gosod â gwefrwyr ceir trydan.
Dywedodd Gareth, Rheolwr Prosiect Hŷn Adra: “Mae’r mathau hyn o gartrefi yn gyntaf i Adra, ar ôl gweithio’n agos gyda Creating Enterprise yn y dyluniad a datblygiad y ffrâm bren a ffabrig Passivhaus, gyda Beech Developments yn rheoli adeiladu yn effeithlon ac o ansawdd, mae’r canlyniad wedi bod yn llwyddiant ysgubol.
“Bydd y trigolion yn elwa o effeithlonrwydd ynni a biliau is, ac rydym yn gobeithio bod hyn yn nodi dechrau datblygiadau tebyg yn y dyfodol. Mae ein hymrwymiad i leihau ein hôl troed carbon yn cyd-fynd â’n cenhadaeth i fuddio tenantiaid a chyfrannu’n gadarnhaol at gynaliadwyedd amgylcheddol.
“Rydym yn estyn ein diolch calonog i bawb a gyfrannodd at y prosiect hwn. Diolch arbennig i Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy am eu hymdrechion cydweithredol, gan sicrhau cartrefi fforddiadwy yn ardal Bae Penrhyn. Rydym yn edrych ymlaen at weld y tai’n dod yn gartrefi wrth i’r teuluoedd symud i mewn.”
Dywedodd Katie Clubb, Pennaeth Tai Strategol Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy: “Rydym yn hynod falch o weithio gydag Adra ar y prosiect cyffrous hwn. Mae’n enghraifft wych o sut y gall partneriaethau cryf ddarparu atebion gwirioneddol i helpu i fynd i’r afael â’r argyfwng tai. Trwy weithio gyda’n gilydd, rydym yn creu cartrefi o ansawdd uchel a fydd yn gwneud gwahaniaeth parhaol i’n cymunedau.”
