Llun o gopiau o'r adroddiad blynyddol

Adra yn parhau i drawsnewid bywydau tenantiaid 

Mae ein hymdrechion  i drawsnewid bywydau tenantiaid a chefnogi cymunedau wedi cael eu hamlygu yn ein hadroddiad blynyddol diweddaraf.

Rydym yn darparu cartref diogel a chyfforddus i dros 18,000 o bobl mewn mwy na 7,400 o eiddo yng ngogledd Cymru ac rydym wedi blaenoriaethu ymdrechion i gefnogi cymunedau i ffynnu trwy gynlluniau fel Academi Adra, ein menter hyfforddi a chyflogaeth arloesol, yn ogystal â datblygu Tŷ Gwyrddfai, y ganolfan ddatgarboneiddio rydym wedi’i sefydlu ym Mhenygroes gyda phartneriaid yng Ngrŵp Llandrillo Menai a Phrifysgol Bangor.

Gwelodd 463 o gartrefi waith gwella fel ail-doi, ffenestri a drysau newydd, inswleiddio, ffensio, gosod boeleri newydd ac uwchraddio ceginau ac ystafelloedd ymolchi fel rhan o fuddsoddiad o £13.9 miliwn.

Rydym hefyd wedi parhau i adeiladu cartrefi newydd i ddiwallu’r galw lleol am gartrefi fforddiadwy o ansawdd uchel, gyda 193 o gartrefi newydd wedi’u cwblhau erbyn diwedd y flwyddyn ariannol. Mae dros hanner y buddsoddiad o £40.3 miliwn wedi’i wneud drwy gyllid grant.

Mae’r adroddiad blynyddol hefyd yn tynnu sylw at sut rydym yn gwrando ar farn tenantiaid a sut rydym yn eu cynnwys wrth wneud penderfyniadau am ei wasanaethau. 

 

Rhai o uchafbwyntiau’r adroddiad: 

 

  • 91% o denantiaid yn dweud bod ganddyn nhw gartref diogel a sicr 
  • 100% o gydymffurfiaeth â Safonau Ansawdd Tai Cymru 
  • 1,657 o bobl wedi rhannu eu barn mewn ymgynghoriadau 
  • Ymwelwyd â 670 o eiddo fel rhan o’r rhaglen ymweliadau ag ystadau 
  • Cynhyrchwyd gwerth £12.5 miliwn o werth cymdeithasol trwy ein gweithgareddau a’n gontractwyr 
  • Gwariwyd cyfanswm o £43,748,319 gyda chyflenwyr yng ngogledd Cymru 
  • Cefnogwyd 164 o unigolion trwy Academi Adra, y fenter hyfforddi a sgiliau 
  • Mae’r cwmni’n cyflogi 386 o bobl 
  • Gwnaed 124 o atgyfeiriadau i Gyngor ar Bopeth 
  • Sicrhawyd 914 o dalebau banc tanwydd 
  • Gwnaed 228 o atgyfeiriadau i fanciau bwyd 

 Dywedodd Hywel Eifion Jones, Cadeirydd ein Bwrdd : “Rydym wrth ein bodd yn cyflwyno ein hadroddiad blynyddol. Mae’n adlewyrchu’r perfformiad cryf a’r gwaith da sy’n digwydd ar draws y busnes i wella bywyd ein tenantiaid a’u rhoi wrth wraidd popeth a wnawn. 

 “Mae partneriaethau hefyd yn bwysig iawn i ni ac mae gennym ystod eang o bartneriaid ledled gogledd Cymru a thu hwnt ac mae cael perthynas gref ac ymrwymiad i gydweithio yn talu ar ei ganfed i’n cymunedau”.

Dywedodd Iwan Trefor Jones, ein Prif Weithredwr: “Mae’r adroddiad yn rhoi cyfle i ni adlewyrchu ar ein cyflawniadau ac rydym wrth ein bodd yn trawsnewid bywydau cymaint o bobl trwy ddatblygiadau fel Academi Adra a Thŷ Gwyrddfai.

“Mae ein tenantiaid wrth wraidd popeth a wnawn ac rydym wedi parhau i wrando arnynt ac ymgysylltu â nhw trwy Eich Llais, ein strategaeth ymgysylltu â thenantiaid. Mae adborth yn hanfodol i’n helpu i gynllunio a darparu gwasanaethau ac rydym yn ddiolchgar i’r tenantiaid sydd wedi rhannu eu barn ar ystod o faterion trwy gydol y flwyddyn ac wedi ein croesawu yn eu cymuned fel rhan o’n rhaglen ymweliadau ag ystadau.

“Rydym wedi parhau â’n buddsoddiad yn ein stoc bresennol i ddarparu cartrefi y gall pobl fod yn falch ohonynt, gan helpu pobl i deimlo’n ddiogel ac yn sicr yn eu cartrefi.

“Wrth gwrs, rydym yn wynebu heriau fel pob cymdeithas dai arall yng Nghymru. 

“Mae’r argyfwng tai yn parhau i effeithio ar bob rhan o Gymru ac rydym wedi bod yn gweithio’n agos gyda’n partneriaid i adeiladu cartrefi newydd i helpu i ddiwallu’r galw am eiddo fforddiadwy ac o ansawdd uchel ledled gogledd Cymru.

“Rydym hefyd yn parhau i weithio tuag at dargedau datgarboneiddio newydd a osodwyd gan Lywodraeth Cymru i wneud ein cartrefi’n fwy effeithlon o ran ynni.

“Ein ffocws nawr yw cyflawni ein Cynllun Corfforaethol newydd sy’n cynnwys cynlluniau i wella ein cartrefi, adeiladu cartrefi newydd, gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i’n cymunedau a meithrin dull ‘un tîm’ yn y cwmni i ddarparu’r gwasanaethau gorau posibl.

“Edrychwn ymlaen at flwyddyn lwyddiannus arall wrth i ni barhau i gyflawni ein rhaglen weithgaredd uchelgeisiol”.

Darllenwch yr adroddiad blynyddol yma