Arian i wneud ein cartrefi yn fwy ynni-effeithlon

Rydym yn falch o fod yn un o nifer o gyrff ledled Cymru a Lloegr a fydd yn derbyn cyfran o £1.2 miliwn o arian tuag at astudiaethau i wella systemau gwresogi yn eu cartrefi.

Fe ddefnyddir y buddsoddiad o’r Cynllun Effeithlonrwydd Ynni Rhwydweithiau Gwres (HNES) a gyhoeddwyd heddiw (Dydd Mercher, 20 Mai) i adolygu perfformiad systemau gwres ar gyfer rhwydweithiau gwres Fron Deg a Pentra Uchaf yng Ngwynedd sy’n gwasanaethu 39 o drigolion, ac i nodi sut y gellir gwella’r systemau.

Dywedodd Owain Owen, ein Pennaeth Eiddo (Asedau): “Rydym yn falch ein bod wedi llwyddo yn ein cais am arian i gynnal astudiaethau ar ddwy rwydwaith a fydd, yn y pen draw, yn arwain at wresogi mwy effeithlon, dibynadwy ac yn gost-effeithiol.

“Bydd hyn nid yn unig yn helpu cwsmeriaid i leihau eu biliau ynni gwres ond hefyd yn gwneud eu cartrefi yn fwy ynni effeithlon.

“Mae hyn yn cyfrannu at y flaenoriaeth yn ein Cynllun Corfforaethol i wella ein cartrefi. Rydym yn buddsoddi yn ein cartrefi i’w gwneud yn fwy diogel ac yn well. Erbyn 2030, hoffem i’n cartrefi fod yn fwy ynni effeithlon drwy well insiwleiddio, ffynonellau ynni adnewyddadwy, a thechnoleg fodern i gadw cartrefi yn gyfforddus ac yn effeithlon.

“Mae cyllid fel hyn yn ein helpu tuag at gyflawni’r nod hwn”.