Aros Adra
Mae Aros Adra yn cynnig cefnogaeth i bobl yn eu cartref.
Rydym yn cynnig y gwasanaeth i denantiaid ac i rai sydd ddim yn denantiaid.
Pwy all gael y gefnogaeth
- person hŷn
- person ag anabledd
- unrhyw un sydd â salwch
Beth all Aros Adra ei wneud i helpu
- gwaith tŷ a glanhau
- siopa
- gwasanaeth eistedd gyda phobl
- golchi dillad a smwddio
- casglu meddyginiaeth
- trafnidiaeth a chymorth gyda apwyntiadau doctor, optegydd neu ysbyty
- cymorth efo biliau neu waith papur
- paratoi prydau
- cyfeillgarwch, sgwrs a gwrando
- cymorth i fynd allan am dro
Does dim yn ormod o drafferth a gallwn addasu’r gwasanaeth i’ch siwtio chi.
Gallwch drefnu ymweliad bob wythnos, bythefnos, misol neu fel y byddwch ei angen.
Pris
Mae’n rhaid talu am wasanaeth Aros Adra.
Mae Aros Adra yn £16.50 yr awr.
Cysylltwch â ni am fwy o wybodaeth.
Sut i dalu
- talu ein swyddog Aros Adra pan maent yn dod i’ch gweld
- cerdyn credyd pan mae swyddog Aros Adra yn dod i’ch gweld
- anfoneb
- debyd Uniongyrchol
- dros y ffôn efo cerdyn credyd
Os oes gennych weithiwr cymdeithasol, efallai y gallan nhw eich helpu efo costau gwasanaeth Aros Adra.
Gwneud cais am y gwasanaeth
Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu eisiau siarad efo ni am y gwasanaeth cysylltwch efo ni.