Benthyciad cymdeithasol gwerth £20 miliwn i greu cartrefi fforddiadwy
Rydym yn falch o gyhoeddi ein bod ni wedi sicrhau benthyciad cymdeithasol gwerth £20 miliwn a phecyn ail-gyllido gwerth £45 miliwn gan NatWest i gyflymu’r broses o ddarparu tai rhent cymdeithasol newydd.
Wedi’n ffurfio yn 2010 ar ôl trosglwyddiad stoc oddi wrth Gyngor Gwynedd, rydym yn rheoli mwy nag 7,000 o dai ac yn gwasanaethu dros 16,000 o gwsmeriaid ledled Gogledd Cymru.
Cawsom gefnogaeth cynghorwyr Trysorlys Savills Financial Consultants ar gyfer y cyllid, gan helpu ni i strwythuro’r pecyn mewn ffordd sy’n cefnogi ein cynlluniau datblygu tymor hir a’n buddsoddiad mewn cymunedau ar draws Gogledd Cymru.
Disgwylir i lawer o’r datblygiadau newydd gyrraedd Band EPC A, gan gyd-fynd ag uchelgeisiau net sero’r Deyrnas Unedig ac ymdrechion ehangach i wella perfformiad ynni ein tai.
Dywedodd Rhys Parry, ein Cyfarwyddwr Adnoddau: “Rydym yn falch o fod y gymdeithas dai gyntaf yng Nghymru i sicrhau benthyciad cymdeithasol gyda NatWest, carreg filltir bwysig a fydd yn cefnogi’n hymdrechion i ddarparu tai rhent cymdeithasol newydd sydd eu hangen ar draws Gogledd Cymru.
“Mae’r buddsoddiad hwn yn ein galluogi i gyflymu ein rhaglen ddatblygu, gyda’r rhan fwyaf o gartrefi newydd yn cyrraedd Band EPC A, gan sicrhau eu bod yn ynni -effeithlon, cynaliadwy, ac yn fforddiadwy ar gyfer y tymor hir”.
Dywedodd Martin Skinner, Cyfarwyddwr Cyllid Tai, Marchnadoedd Canol-Busnes Masnachol yn NatWest: “Mae hwn yn drafodiad sylweddol i Adra ac i’r sector tai Cymreig, gan gefnogi darparu tai sy’n ynni-effeithlon ac o ansawdd uchel. Mae’n dangos sut y gall cyllid wedi’i strwythuro’n dda gefnogi darpariaeth tai cymdeithasol wrth gyfateb i flaenoriaethau amgylcheddol a chymdeithasol yn yr hirdymor.
Dywedodd Alex Morgan, Cyfarwyddwr yn Savills Financial Consultants: “Mae’r cyllid hwn yn rhoi sicrwydd a hyblygrwydd i Adra symud ymlaen â’i gynlluniau datblygu’n gyflym. Mae’r strwythur yn cyd-fynd â buddsoddi hirdymor gyda nodau twf a chynaliadwyedd, gan gefnogi’r ddarpariaeth o gartrefi fforddiadwy sydd eu hangen yn eang ledled Gogledd Cymru.”
