Cadw eich cartref yn gynnes y gaeaf hwn: Nodyn atgoffa pwysig
Gyda’r tywydd oer wedi cyrraedd, rydym eisiau rannu ychydig o tips pwysig i gadw eich cartref yn gynnes ac yn gyfforddus dros fisoedd y gaeaf.
Mae gwres priodol yn amddiffyn eich cartref rhag yr oerfel ac yn eich helpu i osgoi problemau fel llwydni a phibellau’n byrstio.
Pam mae gwresogi priodol yn hanfodol
- Atal pibellau rhag rhewi a byrstio: Pan fydd y tymheredd yn gostwng, gall dŵr mewn pibellau heb wres rhewi ac ehangu, gan achosi iddynt fyrstio. Gall pibell wedi byrstio achosi difrod dŵr sylweddol a gwaith trwsio costus. Drwy ddefnyddio eich gwres, rydych yn helpu i atal hyn rhag digwydd.
- Rheoli lleithder a llwydni: Mae gwres cyson, ar lefel isel, yn helpu i reoli lleithder a thymheredd mewnol eich cartref. Mae hyn yn atal cyddwysiad rhag ffurfio ar arwynebau oer, sef prif achos llwydni a lleithder.
- Sicrhau eich cysur: Mae cartref cynnes yn gartref iach. Mae cynnal tymheredd cyfforddus yn atal eich lle byw rhag mynd yn annifyr o oer ac yn eich helpu i gadw’n iach drwy’r gaeaf.
Defnyddio eich gwres yn effeithlon
I atal biliau gwresogi drud, ystyriwch y tips hyn:
- Defnyddiwch yr amserydd: Yn hytrach na diffodd eich gwres yn llwyr, gosodwch o i ddod ymlaen am ychydig oriau yn y bore ac yn y nos ar dymheredd isel ond cyson. Mae hyn yn fwy effeithlon na gadael i’ch cartref fynd yn oer iawn ac yna ceisio ei gynhesu’n gyflym.
- Cadwch dymheredd cefndir isel: Os ydych yn mynd i ffwrdd am gyfnod byr, cadwch y gwres ymlaen ar osodiad “amddiffyn rhag rhew” (tua 12–15°C) i atal pibellau rhag rhewi.
- Gwaedu eich rheiddiaduron: Os yw rheiddiadur yn oer ar y brig ond yn gynnes ar y gwaelod, mae’n debygol bod aer wedi’i ddal ynddo. Mae dysgu gwaedu rheiddiadur yn dasg syml sy’n gwella ei effeithlonrwydd. Mae llawer o ganllawiau ar-lein ar gael.
Mae gennym fideos defnyddio ar sut i ail osod pwysau eich boeler a gwaedu rheiddiaduron ar ein gwefan: Fideos i helpu ddatrys problemau yn eich cartref
Beth i’w wneud os ewch i ffwrdd
Os ydych yn bwriadu bod i ffwrdd o’r eiddo am fwy na dau ddiwrnod yn ystod tywydd oer, cofiwch:
- Gadewch eich gwres ymlaen ar osodiad cefndir isel i atal pibellau rhag rhewi.
- Gwiriwch eich cytundeb tenantiaeth neu rhowch wybod i ni os ydych yn bwriadu bod i ffwrdd am gyfnod hir, gan y gall hyn effeithio ar yswiriant yr eiddo.
- Sicrhewch fod gennym eich manylion cyswllt brys diweddaraf.
- Diffoddwch eich dŵr ar y prif gyflenwad (stop tap).
Ydych chi yn ei chael hi’n anodd talu costau gwresogi?
Os ydych yn poeni am eich sefyllfa ariannol ac yn ansicr sut y byddwch yn gallu talu eich biliau a rhent, mae cymorth ar gael.
Mae ein Tîm yma i helpu ac i’ch cyfeirio at gymorth o leoedd eraill.
Cysylltwch â ni cyn gynted â phosibl. Mae gan ein Tîm flynyddoedd o brofiad a llawer o wybodaeth i’ch helpu i ddod o hyd i atebion i’ch pryderon.
Eich cyfrifoldebau fel tenant
Fel tenant, rydych yn gyfrifol am ddefnyddio’r system wresogi’n gywir ac adrodd unrhyw broblemau ar unwaith. Os sylwch ar nam gyda’r boeler neu’r system wresogi, cysylltwch â ni cyn gynted â phosibl fel y gallwn drefnu ei drwsio.
