Cadwch yn ddiogel o gwmpas dŵr
Rydym am i chi gael haf pleserus a diogel.
Mae’r tywydd poeth yn dod â nifer o beryglon, ac mae llawer ohonom yn mynd i’r traeth neu’n mwynhau mynd am dro ar hyd afonydd a llynnoedd lleol. Er bod hyn yn ffordd wych o ymlacio, mae’n bwysig cofio y gall dŵr fod yn beryglus hyd yn oed ar ddiwrnodau cynnes.
Rydym yn annog pawb i feddwl am ddiogelwch dŵr, cadw at y llwybrau, a dilyn unrhyw arwyddion rhybudd lleol.
- Cymerwch ofal ychwanegol bob amser o gwmpas ymyl dŵr, gan fod hi’n hawdd llithro ar arwynebau gwlyb neu anwastad.
- Peidiwch â phlymio na neidio’n syth i ddŵr agored, gall hyn achosi sioc dŵr oer, a all fod yn angheuol hyd yn oed ar y diwrnod cynhesaf.
- Cofiwch nad yw dŵr mewn afonydd, llynnoedd a’r môr yn gynnes, hyd yn oed yn yr haf.
- Os byddwch yn cael eich hun yn annisgwyl yn y dŵr, ceisiwch beidio â chynhyrfu. Estynnwch eich breichiau a’ch coesau ac arnofiwch ar eich cefn nes bod effeithiau sioc dŵr oer wedi pasio.
- Peidiwch byth â nofio ar eich pen eich hun mewn dŵr agored.
- Cadwch lygad ar blant bob amser pan fyddant ger dŵr.
- Os ydych ar y traeth, ceisiwch nofio rhwng y baneri coch a melyn lle mae achubwyr bywyd ar ddyletswydd.
- Os gwelwch rywun mewn trafferth yn y dŵr, peidiwch â mentro’ch hun i’w hachub, ffoniwch 999 neu 112 a gofynnwch am help.
- Dywedwch wrth rywun bob amser ble rydych yn mynd a phryd rydych yn disgwyl bod adref.
Am fwy o wybodaeth ac awgrymiadau diogelwch dŵr, ewch i wefan yr RNLI.
