Cadwyn gyflenwi ar draws Cymru yn mynd o nerth i nerth

Mae Fframwaith sy’n cefnogi sefydliadau sector cyhoeddus i brynu deunyddiau adeiladu yn dathlu blwyddyn arall o weithredu llwyddiannus, gan gynnig hwb sylweddol i’r economi Gymreig.

Wedi’i sefydlu ym mis Mawrth 2024, mae Ffrâm24, sy’n cael ei arwain gennym ni, yn fframwaith ar draws Cymru gyfan sy’n cynnwys 37 cyflenwr ac wedi’i chynllunio i gynnig atebion cynhwysfawr ar gyfer deunyddiau adeiladu a gwasanaethau cysylltiedig.

Fel menter Cymru-yn-unig, mae’n sefyll allan am ei effaith gymdeithasol sylweddol, gan gyfeirio buddsoddiad i gwmnïau Cymru a sicrhau bod gwerth cymdeithasol a gynhyrchir yn aros yng Nghymru.

Mae aelodaeth Ffrâm24 eisoes yn ymestyn i awdurdodau lleol, cymdeithasau tai, trydydd sector a chyrff cyhoeddus eraill sydd wedi cofrestru i’r Fframwaith, gyda chynnydd o 29% yn yr aelodau, o gymharu â’r flwyddyn flaenorol.

Dros y ddwy flynedd diwethaf, mae Ffrâm24 wedi cynhyrchu £203,000 o werth cymdeithasol i gymunedau Cymreig.

Dywedodd Martin Burger, Pennaeth Fframweithiau yn Ffrâm24: “Rydym wrth ein bodd bod Ffrâm24 wedi parhau i dyfu’n sefydlog yn ystod y flwyddyn ac yn cael effaith mor gadarnhaol ar economi Cymru.

“Mae Ffrâm24 wedi’i sefydlu i ddarparu modd effeithiol a chost-effeithlon i sefydliadau brynu deunyddiau adeiladu. Drwy wneud hynny, mae’n cynyddu’r economi cylchol ac yn cadw’r bunt Gymreig yn lleol, yn cefnogi cyfeiriad cryf o brynu sy’n gyfrifol yn gymdeithasol ac yn hyrwyddo dyfodol gwytnach a chynaliadwy i Gymru.

“Nid yw llwyddiant Ffrâm24 yn cael ei fesur yn unig drwy ei effeithlonrwydd wrth ddiwallu anghenion prynu sefydliadau Cymreig, ond hefyd drwy ei effaith gymdeithasol.

“Ym Medi diwethaf, trefnodd Ffrâm24 ddigwyddiad ‘Adeiladu Cymru Gyda’n Gilydd’ yn Arena Utilita yng Nghaerdydd. Daeth dros 400 o ymwelwyr ac arddangoswyr, gyda nifer o siaradwyr o sefydliadau fel Llywodraeth Cymru, Ardal a Busnes Cymru ymhlith y siaradwyr. Roedd hi’n gyfle i arddangos manteision Ffrâm24 i sefydliadau’r sector cyhoeddus, ond hefyd i’r cyflenwyr eu hunain.

“Mae’r tîm hefyd wedi cefnogi nifer o ddigwyddiadau cenedlaethol, gan gynnwys cynhadledd Arweinwyr y Diwydiant Tai, expo Busnes Cymru yn Abertawe a Llandudno, digwyddiad a gwobrau Busnes Cymdeithasol Cymru, TAI, Procurex a Gwobrau Go Wales.

“Mae Ffrâm24 yn ymwneud â chreu cysylltiadau a ffurfio partneriaethau rhwng sefydliadau a chwmnïau Cymreig, gan annog nhw i gydweithio a hyrwyddo twf cymuned fusnes cefnogol.

“Drwy feithrin y partneriaethau hyn, rydym yn gobeithio creu effaith bositif, gan gyfrannu nid yn unig at lwyddiant prosiectau unigol ond hefyd at les cyffredinol busnesau a chymunedau Cymru”.