Llun o dwy wraig a dyn yn sefyll o flaen drws tŷ

Carreg Filltir Nodedig yn natblygiad safle Ysgol Pendref.

Mae’n bleser gan Adra gyhoeddi carreg filltir nodedig yn eu huchelgais i gynyddu’r nifer o dai fforddiadwy yng ngogledd Cymru, gyda datblygiad Ysgol Pendref yn Ninbych bron a’i gwblhau.

Eu cynllun tai mwyaf hyd yma, mae bron pob un o’r 110 o gartrefi ynni-effeithlon yn awr wedi’u meddiannu, gyda’r tenantiaid newydd olaf yn cael eu cartrefu. Mae hyn yn nodi cyflawniad arwyddocaol yn eu cenhadaeth i ddarparu cartrefi fforddiadwy o safon uchel ym mhob rhan o ogledd Cymru.

Cafodd y datblygiad yma ei hwyluso gan grant tai cymdeithasol o £6.25m gan Gyngor Sir Ddinbych ac mae wedi’i leoli ar Ffordd Gwaenynog.  Mae’n cynnwys 110 o gartrefi newydd – 80 o unedau fforddiadwy a 30 eiddo rhent marchnad – wedi’u dylunio i ddiwallu’r galw cynyddol am dai modern, ynni-effeithlon yn Sir Ddinbych.

Elise Jones yw un o’r tenantiaid diweddaraf i symud i’w chartref newydd ac mae hi wrth ei bodd.  Dywedodd Elise:  “Mae’n golygu’r byd.  Dwi wedi bod yn byw gyda fy mhlant ac wyrion, ac roedd y tŷ yn orlawn.  Ond mae’r rhan fwya’ wedi mynd erbyn hyn, a dwi wedi cael fy ngadael gyda thŷ pum ystafell wely.  Mae fy mab yn awtistig ac yn cael ei ddysgu o gartref ac felly mae’n golygu’r byd i ni gael cartref newydd.  Mae’n bopeth y mae ei angen.

“Bydd yn gwneud gwahaniaeth mawr.  Mae hefyd yn dawel, mae’n newydd, dwi ddim yn gorfod gwneud dim am y tro cyntaf yn fy mywyd.  Dyma’r peth gorau sydd wedi digwydd i ni.”

Dywedodd Gemma Atkins, tenant arall sy’n symud i mewn gyda’i phlant:  “Mae’n golygu llawer  i ni o ystyried ein bod wedi bod yn byw mewn tŷ dwy ystafell wely am 11 mlynedd.

“Roedd yn sioc braf pan gefais i’r alwad ffôn yn dweud y gallwn gael tŷ pedair ystafell wely newydd.  Dywedais Ia ar unwaith.

“Mae’n golygu bod gan y plant le i’w hunain. Mae’n golygu hefyd ein bod yn agosach at deulu yn Ninbych.  Mae’n golygu llawer i ni ein bod wedi cael lle braf.

“Mae’r tŷ yn hyfryd.  Alla i ddim disgwyl i addurno, a dydi’r plant methu aros i addurno eu hystafelloedd eu hunain.”

Hoffai Carwyn George, Rheolwr Gosod Adra ddiolch i’r holl dimau a oedd yn rhan o’r datblygiad a gosod y cartrefi yma – o’r tîm adeiladu newydd a gosod i’r tîm cyfathrebu a gwasanaethau cwsmer, sydd wedi bod ar y safle yn croesawu ac yn cynorthwyo’r trigolion newydd.

“Roedd hwn yn waith tîm arbennig, ac rwy’n falch o fod yn rhan o’r datblygiad newydd yma.  Hoffwn ddiolch yn arbennig i Gyngor Sir Ddinbych.  Mae’r cydweithrediad rhwng timau mewnol Cyngor Sir Ddinbych wedi’n galluogi i ddod dros heriau cynnar a chefnogi tenantiaid i’w cartrefi newydd.  Dwi’n gobeithio y bydd y tenantiaid newydd yn hapus iawn yn eu cartrefi newydd”.

Dywedodd Rhys Thomas, Aelod Arweiniol Cabinet Sir Ddinbych dros Dai a Chymunedau, “Mae cwblhau’r datblygiad hwn gan Adra yn newyddion ardderchog i Sir Ddinbych.

“Mae’r Cyngor wedi ymrwymo i weithio tuag at ddarparu cartrefi o safon i’w ddinasyddion ac mae’r tai newydd hyn yn gam i’r cyfeiriad cywir. Rwyf wedi siarad â nifer o drigolion newydd ac maent wrth eu bodd gyda’u cartrefi newydd. Bydd parhau i weithio mewn partneriaeth â chymdeithasau tai fel Adra yn ein helpu i barhau i leihau’r amseroedd aros am gartrefi newydd.”

Mae Adra dal wedi ymrwymo i gynyddu’r nifer o gartrefi fforddiadwy ac ynni-effeithlon ym mhob rhan o ogledd Cymru.  Mae’r datblygiadau cyffrous yma i’w cwblhau eleni:

  • Cae Penrhyn, Bae Penrhyn – CONWY – 21 tŷ fforddiadwy (rhent cymdeithasol a chanolraddol).
  • Plas Leiod, Caernarfon – GWYNEDD – 21 fflat cymdeithasol wedi’u lleoli o fewn cynllun byw’n annibynnol, gyda gwasanaethau cysylltiedig ar y safle. Mae gwaith yn mynd rhagddo hefyd ar safle yma, gobeithir y byddant yn cael eu cwblhau yn 2026:
  • Gwel y Foel, Dinas (cam 2) – GWYNEDD – 16 tŷ fforddiadwy (rhent cymdeithasol a chanolraddol).
  • Maes Gwndwn, Bethel – GWYNEDD – 30 tŷ fforddiadwy (rhent cymdeithasol a chanolraddol).
  • Cae Perthi, Felinheli – GWYNEDD – 23 tŷ fforddiadwy (rhent cymdeithasol a chanolraddol).

Os hoffech gael eich ystyried am unrhyw un o’r datblygiadau yma, bydd angen cofrestru eich diddordeb gyda:

GWYNEDD – Plîs cysylltwch gyda Thîm Opsiynau Tai Gwynedd: 01286 685100 / opsiynautai@gwynedd.llyw.cymru

Rhent Canolraddol – Plîs cysylltwch gyda Tai Teg:  03456 015 605 / info@taiteg.org.uk