Gwneud bywyd yn haws: effaith y cymorth ar cartref cywir

“Mae ein quality of life ni wedi newid go iawn wan” 

Dyma eiriau Maldwyn, un o’n tenantiaid ym Mhlas Leiod, Caernarfon. Mae Maldwyn yn gofalu am ei wraig Mary. Cyn symud i Blas Leiod yn ddiweddar, roedd y ddau yn byw mewn fflat rhent preifat. Maent bellach yn byw mewn fflat modern wedi ei addasu ac yn derbyn cymorth wythnosol gan Haf, un o’n Swyddogion Cefnogi. Mae symud wedi trawsnewid eu bywydau. 

Mae’r fflat yn un wedi ei addasu yn benodol ar gyfer anghenion iechyd Mary, mae hoist yn yr ystafell wely sy’n gwneud tasgau fel ymolchi a defnyddio’r gawod yn hwylus dros ben. Mae’r drysau yn llydan sydd yn hwyluso defnyddio cadair olwyn yn y cartref ac i allu gwneud defnydd o’r ystafell gymunedol ym Mhlas Leiod.   

Mae Maldwyn yn hoff o arddio ac yn edrych ymlaen at gael mynd a Mary yn ei chadair olwyn i’r ardd gymunedol ym Mhlas Leiod yn ystod misoedd yr Haf, rhywbeth sydd heb fod yn bosibl i’r ddau ers tro.  

Mae Plas Leiod yn Fflatiau Byw yn Annibynnol, sydd yn golygu fod pob tenant yno yn derbyn cefnogaeth ein Swyddog Cefnogi. Bydd Haf yn ymweld â Maldwyn yn wythnosol; bydd cyfle am sgwrs dros banad a chyfle i roi cymorth gyda gwahanol dasgau. Cyn symud mewn roedd yn gweithio yn agos gyda Shian ein Swyddog Gosod oedd yn sicrhau fod popeth yn rhedeg yn esmwyth i’w galluogi symud fewn, fod y fflat yn addas ar gyfer Mary a bod creu cyfrifon gyda chwmnïau trydan ac ati yn digwydd, tipyn o waith papur!  

“Pobl gora dwi di gal ers talwm, ofnadwy o helpful’ meddai Maldwyn.  

Er mai ond ers rhai wythnosau mae’r ddau wedi ymgartrefu yma, mae Maldwyn eisoes yn teimlo’r buddion ac yn edrych ymlaen yn arw i’w cyfnod gyda’i gilydd yn eu cartref newydd.  Mae bellach yn gwsmer rheolaidd yn y siop leol a’r siop sglodion ac yn gallu picied i’r dref yn hwylus. Mae’n falch fod ganddynt le addas i bobl ddod draw i ymweld â’u bod wedi gweld llawer mwy ar deulu a ffrindiau yn barod. Cafodd y ddau Nadolig cyntaf bendigedig yn eu cartref newydd.  

Yn ogystal â chyfle i fod yn fwy cymdeithasol mae byw ym Mhlas Leiod hefyd wedi cynnig arbedion sylweddol gyda chostau ynni  £200 y mis yn rhatach.    

 Mae’r ddau i’w gweld wrth eu boddau ym Mhlas Leiod, hoffem ddymuno pob hapusrwydd i chi’ch dau yma. Mae Maldwyn a Mary yn enghraifft o’r gwahaniaeth rydym ni yn ei wneud fel tîm, cefnogaeth sydd yn mynd y tu hwnt i dai.