Llu o tair dynes a dyn yn sefyll mewn rhes o flaen arwydd

Chwilio am Hyfforddai Tai newydd

Rydym yn falch iawn o gyhoeddi ein bod am gyflogi Hyfforddai Tai newydd eto eleni.

Mae’r cynllun yn rhoi cyfle i chi weithio gyda ni am gyfnod o ddwy flynedd gan gael blas o wahanol agweddau o’r sector dai, fel:

  • Rhent ac Incwm
  • Gosod a Tai Fforddiadwy
  • Gwasanaeth Cwsmer
  • Gwasanaethau Bro

Bydd yr unigolyn llwyddiannus yn gweithio ar draws ein lleoliadau gwaith ac o fewn ein cymunedau.

Bydd yr unigolyn hefyd yn cael cyfle i astudio tuag at cymhwyster CIH Lefel 2. Bydd y cwrs yn rhoi sylfaen iddyn nhw ac yn darparu dealltwriaeth sylfaenol o’r sgiliau a gwybodaeth sydd eu hangen i gael gyrfa ym myd tai.

Cliciwch yma i gael mwy o wybodaeth am y rôl:

Darllen y Pecyn Recriwtio

Mae’r cynllun ar agor i unrhyw un dros 16 mlwydd oed. Os hoffech fwy o wybodaeth neu sgwrs bellach, cysylltwch â ni ar 0300 123 8084 a gofynnwch am Tamany Clwyd-Jones.