Photo of representatives from Adra and Huws Gray, outside Huws Gray's depot in Tŷ Gwyrddfai Penygroes.

Contract cyflenwi deunyddiau adeiladu mawr wedi’i ddyfarnu gan Adra

Mae cymdeithas tai Adra wedi dyfarnu contract mawr ar gyfer cyflenwi deunyddiau adeiladu i Huws Gray, fel rhan o gytundeb pum mlynedd.

Daeth y contract blaenorol gyda Travis Perkins Managed Services i ben ar Fawrth 31 a chafodd Huws Gray eu dewis drwy Ffrâm24, fframwaith deunyddiau Cymru gyfan i ddarparu’r gwasanaeth o Ebrill 1af.

Mae disgwyl i’r contract wneud arbedion sylweddol i’r cwmni, gyda’r arian hynny yn cael ei ail-fuddsoddi gan Adra yn ei thai.

Mae’r trefniadau newydd yn golygu y gall timau Adra gasglu deunyddiau o nifer o ganghennau ledled Gogledd Cymru, gan leihau amser teithio a gwella cynhyrchiant. Gellir trefnu bod llwythi o eitemau yn cael i’w dosbarthu uniongyrchol o ganghennau lleol  a bydd y trefniant yn sicrhau parhad o gyflenwad deunyddiau.

Bydd y contract hefyd yn golygu mynediad cyflym at ddeunyddiau, gan arwain at amseroedd cwblhau gwaith atgyweiriadau yn nhai ein tenantiaid yn gynt.

Bydd Huws Gray hefyd yn rheoli siop cyflenwi ar safle Tŷ Gwyrddfai, yr hwb ddatgarboneiddio ym Mhenygroes.

Dywedodd Ian Roberts, Pennaeth Eiddo (Refeniw) Adra: “Rydym yn hynod falch o gychwyn y contract newydd gyda Huws Gray fydd yn weithredol dros y pum mlynedd nesaf.

“Mae gan Huws Gray brofiad helaeth o ddarparu contractau ar raddfa fawr fel hon ac mae eu rhwydwaith eang o ganghennau ledled Gogledd Cymru yn cynnig hyblygrwydd gweithredol, gwydnwch, gwell logisteg a gwella darparu gwasanaethau.

“Maen nhw hefyd wedi ymrwymo i ddarparu rhaglen gwerth cymdeithasol, fydd yn cynnwys creu swyddi lleol, prentisiaethau a hyfforddiant; noddi digwyddiadau a mentrau cymunedol, cefnogi ein gwaith yn Nhŷ Gwyrddfai a gweithio gyda mentrau bach a chanolig lleol i gadw gwerth economaidd o fewn Gogledd Cymru.

“Rhaid i ni gydnabod Travis Perkins Managed Services sydd wedi bod yn bartner gwerthfawr dros y 13 mlynedd diwethaf, a hoffem ddiolch iddynt am eu cefnogaeth, eu proffesiynoldeb, a’r cysylltiadau gweithio cryf a ddatblygwyd ar draws ein timau”.

Dywedodd Lyndon Johnson, Cyfarwyddwr Rheoli, Huws Gray Partnership Solutions:

“Rydym yn hollol falch o gyhoeddi ein partneriaeth swyddogol gydag Adra.

“Drwy gyfuno ein gwerthoedd a’n cryfderau cyffredin, rydym yn llwyr ymroddedig i adeiladu partneriaeth sy’n llwyddo i ragoriaeth ac yn darparu cefnogaeth ystyrlon, barhaol i’n cymunedau lleol.

“Gyda’n gilydd, edrychwn ymlaen at wneud effaith go iawn ym mhle mae hynny’n fwyaf pwysig.”