Darlun 3D o'r datblygiad

Croesawu caniatâd cynllunio stad newydd ger Bangor

Rydym yn croesawu penderfyniad pwyllgor cynllunio Cyngor Gwynedd i ganiatau cynllun i ddatblygu 48 o gartrefi fforddiadwy ar gyrion Bangor.

Roedd y cais gan Williams Homes (Bala) ar ein rhan ar gyfer datblygu 34 dai a 14 o fflatiau ar dir Cae Incline Fields yn Llandygai hefyd yn cynnwys gwaith cysylltiedig yn cynnwys gerddi, mynediad i gerddwyr a cherbydau, mannau parcio, mannau chwarae a gwaith tirlunio.

Dywedodd Huw Evans, ein Pennaeth Datblygu: “Mae cymaint o alw am dai fforddiadwy a chymdeithasol yn y rhan hon o Wynedd, sydd yn adlewyrchu’r darlun cenedlaethol ac ydym wrth ein bodd bod y pwyllgor wedi cymeradwyo’r cais.

“Rydym wedi gwneud ymrwymiad yn ein Cynllun Corfforaethol i adeiladu hyd at 800 o dai cymdeithasol erbyn 2030 y gall pobl fod yn falch ohonynt – cartrefi sydd o safon uchel ac yn fforddiadwy.

“Rydym yn edrych ymlaen at weld gwaith yn cychwyn ar y safle”.