A copy of the Eich Llais logo

Cwsmeriaid yn ein helpu i lunio ein gwasanaethau

Rydym yn dod at ddiwedd blwyddyn gyntaf Eich Llais, ein strategaeth ymgysylltu â thenantiaid.

Dros y flwyddyn ddiwethaf, rydym wedi cynnal rhaglen o ymweliadau stadau, gyda 14 sesiwn yn cael eu cynnal ac ymwelwyd â 670 eiddo (ym Mangor, Bethesda, Bala, Bermo, Tudweiliog, Aberdaron, Bwcle, Dinbych, Caernarfon, Llanllyfni, Penygroes, Penisarwaun, Cwm y Glo, Llanberis, Fairbourne, Rhiw, Botwnnog, Bwlchtocyn, Aberthenerth, Minffordd a Rhuddlan).

Roedd un o’n hymgynghoriadau mwyaf ar foddhad cwsmeriaid gyda’u ‘rhent yn darparu gwerth am arian’. Roedd yr adborth hwn yn bwydo i’n datganiad rhent blynyddol.

Amlygwyd hefyd y cymorth sydd ar gael gyda chostau byw gan y wardeniaid ynni a’n tîm Rhenti, yn ogystal â hyrwyddo ein Panel Cwsmeriaid ac Academi Adra.

Yn ystod yr ymweliadau hyn:

  • Nodwyd 187 o atgyweiriadau heb eu hadrodd
  • Nodwyd 115 o faterion amrywiol eraill
  • Derbyniwyd 54 cais am gymorth gyda rhent a biliau ynni
  • Cofrestrwyd 83 o Aelodau Panel Cwsmeriaid newydd
  • Derbyniwyd adborth tenantiaid ar broses gosod rhent 2025-2026

Ymgynghorwyd ar faterion fel boddhad tenantiaid, amserlenni atgyweirio a chynnal a chadw a’r Cynllun Corfforaethol.

Mae gan ein Panel Cwsmeriaid 473 o aelodau o bob rhan o’n cymunedau. Gofynnwyd am eu barn ar ein hunanasesiad blynyddol, cyfathrebu am Safonau Ansawdd Tai Cymru, gwasanaethu tanwydd solet a’n llawlyfr tenantiaid.

Yn gyfan gwbl, rydym wedi cael adborth gan 1,600 o denantiaid a disgwyliwn i’r ffigur terfynol fod dros 1,900, unwaith y bydd yr holl ddata wedi’i dderbyn.

Mae cynlluniau yn eu lle ar gyfer ymgynghori dros y flwyddyn nesaf trwy ymweliadau stad pellach, holiaduron boddhad tenantiaid, sgyrsiau ardal a thrwy’r Panel Cwsmeriaid.