
Cydweithio ar ei orau ym Mhenygwndwn
Bu nifer o sefydliadau yn rhan o ddiwrnod amgylcheddol diweddaraf ym Mhenygwndwn, Blaenau Ffestiniog – un o nifer o ddiwrnodau tebyg rydym yn ei drefnu bob blwyddyn.
Fel yr arfer roedd nifer o adrannau gwahanol wedi cyd-weithio i greu diwrnod i helpu ein tenantiaid, gyda aelodau o dimau Cymunedol, Bro, Rent a’r Tîm Gwasanaeth Cwsmer draw yno ar y diwrnod i roi help llaw.
Roedd aelodau o Cyngor Gwynedd, Ardal Ni, Yr Heddlu, Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru ac aelodau o’r Dref Werdd ar gael hefyd i lenwi faniau ac i symud y sgipiau.
Roedd Aled Jenkins o Warm Wales yno ar y diwrnod hefyd yn cefnogi drwy roi cyngor i’n tenantiaid.
Erbyn diwedd y prynhawn, nid yn unig bod y dair sgip yn llawn dop, ond bu rhaid i faniau’r cyngor wneud 17 o dripiau i’r ganolfan ailgylchu, heb os y mwyaf eto ar un o’r diwrnodau amgylcheddol yma!