Lluniau o dynion a merched mewn ystafell

Cyfle i chi ddysgu mwy am waith y Bwrdd

Ydych chi eisiau rhoi rhywbeth yn ôl i’r gymuned neu’n awyddus i sicrhau bod barn tenantiaid yn cael ei glywed?

Rydym am gynnal rhaglen hyfforddi ar gyfer ein tenantiaid, gyda sylw ar gyfranogiad cwsmeriaid a gwaith y Bwrdd. Bydd y rhaglen yn ffordd wych o ddysgu am gymryd rhan i siapio ein gwasanaethau.

Bydd cyfle i wneud cais i ddod yn Aelod o’r Bwrdd, pe bai rhywun yn dymuno symud ymlaen i hyn. Mae cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ganolog i bopeth a wnawn, ac rydym yn croesawu diddordeb gan unigolion o gefndiroedd gwahanol.

Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â Gwenno o’r Tîm Llywodraethu drwy ffonio 0300 123 8084 neu e-bostio: llywodraethu@adra.co.uk

Mae lleoedd yn gyfyngedig, a bydd blaenoriaeth yn cael ei rhoi i denantiaid sydd heb gymryd rhan yn ein Academi Bwrdd o’r blaen