Cyhoeddi penodiadau i’r Bwrdd
Mae’r Bwrdd wedi cymeradwyo apwyntiad dwy aelod newydd.
Mae Ellen Thirsk yn Brif Weithredwr ar Antur Waunfawr.
Mae Ellen yn dod â dros 30 mlynedd o brofiad mewn arweinyddiaeth, llywodraethu a chydymffurfiaeth gyfreithiol ar draws y sectorau cyhoeddus, trydydd a thai cymdeithasol.
Fel Prif Weithredwraig Antur Waunfawr, mae hi wedi arwain gwasanaethau cymhleth mewn gofal, masnachol a chymunedol. Mae gyrfa Ellen hefyd wedi cynnwys rolau uwch gyda Chymdeithas Tai Eryri (Grŵp Cynefin erbyn hyn) ac o fewn y GIG.
Yn ogystal, mae gan Ellen hanes hir o arweinyddiaeth Bwrdd a chymunedol, gan gynnwys rolau gyda Galeri Cyf, fel llywodraethwr ysgol, a’r Samariaid.
Mae Elisabeth George yn gyfreithiwr cymwys gyda phrofiad helaeth yn y trydydd sector a busnes, ac ar hyn o bryd mae’n gweithio fel Pennaeth Busnes yn GISDA, lle mae hi’n arwain ar Lywodraethu, cydymffurfiaeth, datblygiad sefydliadol, AD, a chynllunio strategol.
Ynghyd â’i chyflawniadau proffesiynol, mae hi wedi treulio dros ugain mlynedd yn cyfrannu at fywyd cyhoeddus a gwirfoddol, gan gynnwys rolau fel Cynghorydd Tref Criccieth (ddwywaith Cadeirydd) ac fel ymddiriedolwr/cyfarwyddwr ar gyfer sawl sefydliad diwylliannol a chymunedol.
Dywedodd Sasha Davies, Cadeirydd y Bwrdd: “Rydym wrth ein bodd yn cyhoeddi apwyntiad Ellen a Liz i’r Bwrdd.
“Mae gan y ddwy gymaint o brofiad yn eu meysydd a beth oedd ein taro yn y cyfweliad oedd eu brwdfrydedd i wneud gwir wahaniaeth i fywydau tenantiaid a chymunedau.
“Mi fydd eu harbenigedd yn ychwanegu at y cyfoedd o brofiad sydd gan aelodau’r Bwrdd ac rydym yn edrych ymlaen at gael cydweithio gyda nhw”.
