LLun o stad o dai gyda choed a mynyddoedd yn y cefndir

Cymdeithasau tai yn ymateb i newidiadau Safonau Ansawdd Tai Cymru

Mae cymdeithasau tai yn y Gogledd yn hysbysu tenantiaid am newidiadau a gyflwynir yn genedlaethol ar y modd mae landlordiaid yn ymateb i beryglon yn y cartref.

Mae’r newidiadau yng Nghymru, sy’n dod i rym ar 1 Ebrill 2026, yn rhan o Safonau Ansawdd Tai Cymru 2023 ac yn golygu bod amserlenni llym i landlordiaid ddelio â pheryglon fel diffygion lle mae’r achos o fewn rheolaeth y landlord.

Mae’r amserlenni newydd sy’n cael eu cyflwyno yn nodi:

  • Rhaid cynnal ymchwiliad i berygl a allai gyflwyno risg sylweddol gyda siawns arsylwadol o niwed ar unwaith i’r tenant/defnyddiwr o fewn 24 awr a’i atgyweirio o fewn 24 awr ychwanegol. Dylid gwneud unrhyw waith i wneud yn ddiogel cyn gynted â phosibl mewn unrhyw achos.

 

  • Bydd perygl a all gyflwyno risg sylweddol heb unrhyw siawns asesedig o niwed ar unwaith yn cael ei hymchwilio o fewn 10 diwrnod gwaith ac yn cael ei thrwsio o fewn cyfnod pellach o 5 diwrnod gwaith.

 

  • Os na fydd modd trwsio perygl o fewn yr amserlenni, rhaid darparu cynllun cryno ysgrifenedig i’r tenant (copi caled neu electronig) o fewn 5 diwrnod gwaith.

 

Mewn datganiad ar y cyd, dywedodd Ian Roberts, ein Pennaeth Eiddo Refeniw; Craig Sparrow, Cyfarwyddwr Gweithredol – Eiddo a Datblygiad ClwydAlyn; Sharon Morris, Cyfarwyddwr Gweithrediadau Grŵp Cynefin; Lauren Eaton Jones, Cyfarwyddwr Cynorthwyol – Datblygu Cymdeithas Tai Gogledd Cymru ac Owain Roberts, Cyfarwyddwr Cynorthwyol – Asedau a Diogelwch Tenant o Gartrefi Conwy:

“Dros y blynyddoedd diwethaf bu mwy o sylw ar sut mae landlordiaid ledled y DU yn ymateb i faterion sydd yn ymwneud â lleithder, llwydni a chyddwysedd a pheryglon eraill yn y cartref.

“Hoffwn sicrhau tenantiaid fod gennym eisoes weithdrefnau cryf a chlir i ddelio â’r mathau hyn o faterion, gan ein bod yn cymryd ein cyfrifoldebau fel landlordiaid o ddifrif. Mae ein tenantiaid yn haeddu cartrefi diogel a chyfforddus ac mae hynny yn parhau i fod yn flaenoriaeth i ni.

“Mae’r deddfau newydd hyn yn golygu ein bod wedi newid rhai o’n gweithdrefnau ar gyfer ymateb i faterion sy’n codi ac yn cryfhau’r ffordd yr ydym yn cyfathrebu gyda thenantiaid am sut y byddwn yn ymateb i’r adroddiadau y maent yn eu gwneud am unrhyw beryglon yn eu cartrefi”.