Cymeradwyo cynllun tai yn Llanrug
Rydym yn croesawu penderfyniad Pwyllgor Cynllunio Cyngor Gwynedd i gymeradwyo cais ar gartrefi fforddiadwy yn Llanrug.
Roedd y cais ar gyfer 17 cartref fforddiadwy ar dir oddi ar Ffordd Glanffynnon, hefyd yn cynnwys creu mynediad newydd i gerbydau a ffordd fynedfa fewnol, cau 2 bwynt mynediad amaethyddol presennol, , gwaith ymestyn Ffordd Glanffynnon ynghyd a gwaith tirlunio, draenio a gwaith arall cysylltiedig.
Bydd y tai yn cynnwys 6 tŷ tair ystafell wely; 5 tŷ dwy ystafell wely; 1 tŷ pump ystafell wely; 4 bynglo dwy ystafell wely ac un bynglo pedair ystafell wely.
Dywedodd Huw Evans, Pennaeth Datblygu Adra: “Rydym yn croesawu penderfyniad y Pwyllgor Cynllunio i ganiatau cynllun Ffordd Glanffynnon.
“Mae cymaint o alw am dai fforddiadwy yn ardal Llanrug, gyda dros 400 o deuluoedd ar y rhestrau aros tai cymdeithasol a chanolraddol wedi mynegi diddordeb mewn byw yn Llanrug, gyda bron 50 ohonynt â chysylltiad lleol a wedi byw yn y pentref am fwy na phum mlynedd.
“Mae’r angen yma yn adlewyrchu’r darlun cenedlaethol ac roeddem yn falch o allu rhoi cynllun tai fforddiadwy fyddai’n darparu cartrefi o safon o flaen y pwyllgor cynllunio.
“Rydym wedi gwneud ymrwymiad yn ein Cynllun Corfforaethol i adeiladu hyd at 800 o dai fforddiadwy erbyn 2030 y gall pobl fod yn falch ohonynt – cartrefi sydd o safon uchel ac yn fforddiadwy. Bydd y datblygiad hwn yn cyfrannu tuag at wireddu’r uchelgais yma.
“Rydym yn edrych ymlaen at weld gwaith yn cychwyn ar y safle”.
