Gosod eich cartref
Os ydych yn meddwl cael lletywr neu gosod eich cartref, gwnewch yn siwr eich bod yn gwybod eich hawliau.
-
Lletywyr
Mae lletywr yn rhannu ystafell yn eich cartref.
Mae lletywr yn rhannu eich lle byw gyda chi a chi yw eu landlord.
Nid oes gan y lletywr ddefnydd neilltuol o unrhyw ran o’r eiddo.
Cael Lletywr
Mae angen i rai tenantiaid gael ein caniatâd i gael lletywr.
Mae’n dweud yn eich Cytundeb Tenantiaeth os oes angen i chi gael caniatâd neu beidio.
Bydd angen i chi roi’r manylion yma i ni am eich lletywr:
- enw
- oedran
- rhyw
- pa ystafell fyddant yn ei gael
-
Is-denant
Byddai gan is-denant ddefnydd neilltuol o rai rhannau o’ch cartref.
Byddai is-denant yn rhannu rhannau eraill eich cartref. Fel arfer mi fyddai ganddyn nhw oriad eu hunain.
Ni chewch is-osod eich cartref i gyd.
Cael is-denant
Mae’n dweud yn eich Cytundeb Tenantiaeth os oes gennych hawl i gael is-denant.
Bydd angen i chi roi’r manylion yma i ni am eich lletywr:
- enw
- oedran
- rhyw
- pa ystafell fyddant yn ei gael
Cyn cael Is-denant
Eich cyfrifoldeb chi yw chwilio am is-denant.
Os ydych chi neu eich is-denant yn cael Budd-daliadau Lles, bydd angen i chi ddweud wrth yr awdurdodau am unrhyw newidiadau i faint o bres sy’n dod i mewn.
Eich cyfrifoldeb chi yw gwneud ymholiadau digonol cyn dewis lletywr neu is-denant. Mae angen i chi ofyn am:
- Gwiriad statws mewnfudo ar gyfer unrhyw un sydd heb Basbort Prydeinig neu unrhyw un sydd ddim yn Ddinesydd Prydeinig
- Cerdyn Preswylydd Parhaol
- Caniatâd amhenodol i aros
- Cerdyn caniatâd amhenodol i ddod mewn neu dim cyfyngiad amser wedi ei roi gan y Swyddfa Gartref
Cynnal gwiriadau am bob oedolyn yr ydych yn bwriadu eu cymryd fel lletywr neu is-denant.
-
Sut byddwn ni yn helpu
Os hoffech gael lletywr neu is-denant, byddwn yn rhoi manylion asiantaethau annibynnol i chi a all roi help a chyngor i chi.
Gallwn roi cyngor i chi ynglŷn â chael is-denant.
Byddwn yn ystyried pob cais am is-denant yn unigol. Ni fyddwn yn gwrthod heb reswm da.
Rheswm efallai na fyddwn yn rhoi caniatâd i chi gael is-denant
- os fyddai cael rhywun ychwanegol yn byw yn eich cartref yn golygu gorlenwi
- os oes meini prawf cymhwysedd ar gyfer eich cartref, ac nad yw’ch is-denant yn cwrdd â’r rhain. Er enghraifft, os ydych chi’n byw mewn cartref gwarchod a bod angen i chi fod dros 55 oed.
- os oes gorchymyn meddiant yn eich erbyn
-
Ymddygiad a hawliau eich lletywr neu is-denant
- chi sy’n gyfrifol am ymddygiad eich lletywr neu is-denant yn eich cartref
- byddwn yn cymryd camau yn eich erbyn os yw’ch lletywr neu is-denant yn golygu eich bod chi’n torri’ch cytundeb tenantiaeth
- ni fydd eich tenantiaid neu is-denantiaid yn cael eu hystyried os byddwch yn gwneud cais am drosglwyddiad
- os cewch eich symud i eiddo arall oherwydd gwaith mawr, nid ydym yn gyfrifol am ddod o hyd i le i’ch lletywr neu is-denant
- os ydych mewn perthynas â’ch lletywr neu is-denant, rhowch wybod i ni ac unrhyw asiantaeth berthnasol arall
- nid oes unrhyw beth cyfreithiol na chontract rhwng eich lletywr neu is-denant a ni.