Cymorth Swyddog Safle yn cefnogi byw yn annibynnol
Aethon draw am sgwrs efo Sulwen yn ddiweddar, mae hi yn denant sydd yn derbyn gofal gan Enfys, un o’n Swyddogion Tai Cefnogol. Roedd yn amlwg cymaint o feddwl oedd ganddi o Enfys a’r gwahaniaeth mae’n ei wneud i’w bywyd.
Mae byw yn annibynnol yn rhywbeth mae Sulwen yn ei werthfawrogi yn fawr, a gyda chymorth Swyddog Tai Cefnogol mae hi’n gallu parhau i fyw yn annibynnol.
“Sgenai mond y gair gora amdani, wastad yna i’n helpu i” meddai Sulwen.
Mae anogaeth a chymorth ymarferol i wneud tasgau yn ganolog i gefnogaeth Sulwen.
Mae ein Swyddogion Tai Cefnogol yn gweithio’n agos gyda’n tenantiaid i sicrhau eu bod yn:
- teimlo yn ddiogel
- eu bod yn cael eu cefnogi
- byw yn gyfforddus yn eu cartrefi.
Mae anghenion pob tenant yn wahanol ac felly mae’r gefnogaeth hefyd yn edrych rhywfaint yn wahanol i bawb. I Sulwen mae’n golygu cyswllt cyson a rhywun i ddibynnu arno. Gall ein Swyddogion Tai Cefnogol cael hyd at dri chyswllt wythnosol, gall hyn fod trwy ymweld â’r cartref neu dros y ffôn, mae’n golygu clywed llais cyfarwydd â dibynadwy yn rheolaidd.
Eglurodd Sulwen ei bod hi yn lwcus iawn o gael cefnogaeth arbennig gan ei theulu ond fod y gefnogaeth gan Enfys hefyd yn gam ychwanegol o gefnogaeth a sicrwydd iddi:
“Dwi’n lwcus iawn o’n nheulu, ond mae cymorth Enfys hefyd yn help mawr i fi”
Mae’r gefnogaeth yma wedi ei galluogi hi aros yn annibynnol yn ei chartref a theimlo yn gyfforddus yno hefyd, ac mae’n annog mwy o wneud defnydd o’r gwasanaeth.
I gael gwybod mwy am ein gwasanaeth Swyddog Tai Cefnogol: Cymorth yn eich Cymuned – Adra
