Cymorth yn eich Cymuned

Rydym yma i’ch cefnogi i fyw’n annibynnol ac yn hyderus yn eich cartref.

Ar y dudalen hon, cewch wybod am y cymorth sydd ar gael yn eich cymuned drwy’n Swyddogion Tai Cefnogol a’n Swyddogion Safle, pobl leol sy’n gweithio gyda chi i sicrhau:

  • fod eich cartref yn ddiogel
  • fod eich anghenion yn cael eu hateb
  • fod eich lles yn cael ei gefnogi.
  • Swyddog Safle

    Rôl Swyddog Safle yw eich annog a’ch helpu i fyw’n annibynnol.

    Bydd eich Swyddog Safle yn:

    • Cysylltu efo chi’n wythnosol trwy ymweliadau, galwadau ffôn neu’r ddau.
    • Cwblhau ‘Ffurflen Manylion Personol’ efo chi. Bydd rhain yn cael eu hadolygu bob 6 mis neu’n gynt os bydd amgylchiadau yn newid.
    • Helpu i’ch cyfeirio at asiantaethau eraill fel; Gwasanaethau Cymdeithasol, Age Cymru, Swyddfa Cyngor ar Bopeth, Hybiau ICAN ac ati.
    • Trefnu digwyddiadau cymdeithasol mewn grŵp, gall rhain for ar y safle neu oddi ar y safle.
    • Ymateb i unrhyw argyfwng ar y safle (ar y safle neu oddi ar y safle). Hoffem gael eich mewnbwn wrth drefnu’r digwyddiadau yma.
    • Cysylltu efo perthnasau, meddyg a/ neu gwasanaethau brys os oes angen.
    • Cynnal archwiliad bob 3, 6 a 9 mis i wneud yn siwr nad oes unrhyw broblemau wedi codi.

     

     

    Ni fyddwn yn…

    • Rhoi meddyginiaeth neu gyffuriau ar bresgripsiwn
    • Rhoi cyngor ariannol (ond gallwn eich cyfeirio at asiantaethau sy’n gallu helpu)
    • Rhoi gofal personol neu ofal nyrsio (ond gallwn eich cyfeirio at asiantaethau sy’n gallu helpu)
    • Derbyn anrhegion
    • Bod ar ddyletswydd 24/7 – Nid ydym ar y safle drwy’r amser. Rhan amser ydy pob Swyddog Safle, ond gallwch gysylltu â ni os oes angen cyngor neu gefnogaeth arnoch. Byddwn yn trafod yr oriau gwaith gyda chi ar y dechrau.

     

     

     

     

     

     

     

     

     

     

     

  • Swyddog Tai Cefnogol

    Rôl Swyddog Tai Cefnogol yw eich annod a’ch helpu i fyw’n annibynnol.

    Bydd eich Swyddog Tai Cefnogol yn…

    • Cwblhau ‘Cynllun Manylion Personol’ a ‘Ffurflen Manylion Personol’ efo chi. Bydd rhain yn cael eu hadolygu bob 6 mis neu’n gynt os bydd amgylchiadau yn newid.
    • Cysylltu efo chi hyd at 3 gwaith yr wythnos trwy ymweliadau, galwadau ffôn neu’r ddau.
    • Helpu i’ch cyfeirio at asiantaethau eraill fel; Gwasanaethau Cymdeithasol, Age Cymru, Swyddfa Cyngor ar Bopeth, Hybiau ICAN ac ati.
    • Trefnu digwyddiadau cymdeithasol mewn grŵp, gall rhain for ar y safle neu oddi ar y safle.
    • Ymateb i unrhyw argyfwng ar y safle (ar y safle neu oddi ar y safle). Hoffem gael eich mewnbwn wrth drefnu’r digwyddiadau yma.
    • Cysylltu efo perthnasau, meddyg a/ neu gwasanaethau brys os oes angen.
    • Cynnal archwiliad bob 3, 6 a 9 mis i wneud yn siwr nad oes unrhyw broblemau wedi codi.

    Ni fyddwn yn…

    • Rhoi meddyginiaeth neu gyffuriau ar bresgripsiwn
    • Rhoi cyngor ariannol (ond gallwn eich cyfeirio at asiantaethau sy’n gallu helpu)
    • Rhoi gofal personol neu ofal nyrsio (ond gallwn eich cyfeirio at asiantaethau sy’n gallu helpu)
    • Derbyn anrhegion
    • Bod ar ddyletswydd 24/7 – Nid ydym ar y safle drwy’r amser. Rhan amser ydy pob Swyddog Safle, ond gallwch gysylltu â ni os oes angen cyngor neu gefnogaeth arnoch. Byddwn yn trafod yr oriau gwaith gyda chi ar y dechrau.

Sut allwch chi ein helpu?

  • Atebwch eich ffôn a rhoi mynediad i’ch cartref pan fo angen.
  • Rhowch wybod am unrhyw newid yn eich manylion neu amgylchiadau.
  • Dywedwch wrthym os byddwch i ffwrdd am gyfnod hir (e.e. gwyliau neu’r ysbyty).
  • Os oes gennych anifail anwes, trefnwch ofal rhag ofn y byddwch yn sâl neu yn yr ysbyty.
  • Peidiwch â gosod cadwyn ddiogelwch ar y drws ffrynt.
  • Rhowch wybod i deulu a ffrindiau y gallwn gysylltu â nhw os na allwn gael gafael arnoch neu os bydd pryder amdanoch.

 

Cofiwch

 

  • Os byddwn yn poeni am eich lles, gallwn fynd i mewn i’ch cartref gyda’r prif oriad (master key). Byddwn yn ceisio cysylltu â’ch cyswllt brys yn gyntaf.
  • Os oes gennych focs i’ch goriadau (keysafe), efallai bydd y côd yn cael ei rannu gyda’r gwasanaethau brys os oes argyfwng.
  • Mae ein swyddogion yma i helpu, byddwch yn garedig ac yn barchus. Ni dderbynnir ymddygiad anghwrtais na chamdriniaeth tuag at staff.