Ein haddewid i’n cymunedau
Rydym yn gymdeithas dai sydd â ffocws clir ar ein cwsmeriaid a’n cymunedau ac rydym yn falch iawn o’r hyn rydym wedi’i gyflawni hyd yn hyn.
Mae’r strategaeth hon yn nodi ein gwerthoedd cymunedol, ein blaenoriaethau a’n hymrwymiad hir dymor i wneud gwir wahaniaeth yn ein cymunedau.
Bydd ein gwaith yn cefnogi y 5 prif thema canlynol:
1. Cyflogaeth a sgiliau
Hybu sgiliau, hyfforddiant a chyflogaeth yn lleol drwy sicrhau’r cyfleoedd economaidd gorau i’n tenantiaid trwy brofiad gwaith, lleoliadau gwaith gwirfoddol a phrentisiaethau thrwy ein cytundebau a phrosiectau amrywiol.
2. Iechyd a lles
Byddwn yn gwella iechyd a lles ein tenantiaid drwy ddarparu tai addas ond hefyd drwy weithio mewn partneriaeth gydag eraill i leihau’r pwysau ar ein gwasanaethau iechyd drwy ataliaeth ac ymyrraeth cynnar.
3. Amgylchedd
Byddwn yn sicrhau bod ein cymdogaethau yn llefydd i ymfalchïo ynddynt trwy sicrhau amgylchedd glân a thaclus, rheoli ein tir a’n hasedau yn effeithiol er lles y gymuned. Mae’r amgylchedd naturiol o bwysigrwydd mawr i breswylwyr Gwynedd ac rydym wedi ymrwymo yn llwyr i’w amddiffyn.
4. Trosedd a diogelwch
I sicrhau bod ein cymunedau yn parhau i fod yn llefydd diogel i fyw ynddynt byddwn yn rheoli ein stadau yn effeithiol, ymdrin â throsedd ac yn gweithio mewn partneriaeth ag eraill ar ymyrraeth cynnar a lleihau niwed.
5. Diwylliant, treftadaeth ac iaith
I sicrhau bod ein cymunedau yn parhau i fod yn llefydd diogel i fyw ynddynt byddwn yn rheoli ein stadau yn effeithiol, ymdrin â throsedd ac yn gweithio mewn partneriaeth ag eraill ar ymyrraeth cynnar a lleihau niwed.