Sêr Cymunedol

Ydach chi’n adnabod cwsmer sydd yn gwneud gwahaniaeth yn ein cymunedau neu sydd yn mynd y filltir ychwanegol i helpu eraill?

Os felly, gallwch eu henwebu am wobr Sêr Cymunedol.

Bob tri mis rydym yn dewis enillwyr o bedwar categori gwahanol, sydd yn derbyn gwobr ariannol.

Enwebu

Gall unrhyw un enwebu:

  • cymydog
  • aelod o staff
  • cynghorwr
  • aelodau o’r cyhoedd

I enwebu un o’n cwsmeriaid, dewiswch y categori fwyaf addas o’r restr isod ac anfonwch e-bost i’r Tîm Cyswllt Cymunedol yn egluro pam ddylai’r person gael ei wobrwyo: cymunedol@adra.co.uk

a picture of a woman being presented with a community star award ser cymunedol llanaelhaearn

Cymydog da

Mae’r categori yma ar gyfer unigolion sydd yn mynd y filltir ychwanegol i helpu eraill yn ein cymunedau.

Mae esiamplau gynnwys helpu’r henoed, helpu pobl fregus, trefnu digwyddiadau cymunedol a dangos esiampl dda i eraill yn y gymuned.

 

Syniad da

Mae’r categori yma ar gyfer unigolion sy’n meddwl am syniadau fyddai o fudd i’r gymuned.

Mae esiamplau yn cynnwys syniadau i leihau ymddygiad gwrthgymdeithasol, syniad i wella’r amgylchedd, syniad i wella ymddangosiad eich stad neu syniad ar gyfer gweithgareddau / digwyddiadau i’r ifanc neu bobl hyn.

Gwobr pobl Ifanc

Mae’r categori yma ar gyfer unigolion o dan 25 oed sy’n gwneud gwahaniaeth yn ein cymunedau.

Mae esiamplau yn cynnwys helpu’r henoed, helpu pobl fregus, gwirfoddoli yn y gymuned, trefnu gweithgareddau/digwyddiadau cymunedol neu ddangos esiampl dda i eraill.

Gwobr werdd

Mae’r categori yma ar gyfer unigolion sy’n gwneud gwaith i wella’r amgylchedd.

Mae esiamplau yn cynnwys hybu ailgylchu, tacluso ein cymunedau, cadw gerddi/mannau cymunedol/strydoedd a stadau yn daclus a hybu a hyrwyddo ffyrdd o arbed ynni.