Eiddo Adra, eich cartref chi, eich barn chi!
Croeso i ymgynghoriad cyntaf Panel Cwsmeriaid Adra!
Trwy’r Panel, ein nod yw cynnal ymgynghoriadau gyda’n cwsmeriaid bob tri mis, ar amrywiaeth o bynciau gwahanol. Byddwn wedyn yn defnyddio’r adborth o bob ymgynghoriad i wella a datblygu ein gwasanaethau.
Mae’r ymgynghoriad cyntaf hwn yn edrych ar ein Strategaeth Rheoli Asedau newydd.
Mae’r strategaeth yn manylu ar sut y byddwn yn rheoli ac yn buddsoddi yn ein heiddo dros y 10 mlynedd nesaf, gan sicrhau ein bod yn parhau i ddarparu cartrefi o ansawdd, mewn cymdogaethau diogel.
Bydd eich adborth chi yn ein helpu i lunio ein cynlluniau ar gyfer buddsoddi yn eich cartref a’r amgylchedd lleol yn y dyfodol.
I ymuno â’r Panel Cwsmeriaid ac i gymryd rhan yn yr ymgynghoriad hwn, yna yn syml:
Os hoffech gael copi papur o’r holiadur, neu os oes gennych unrhyw ymholiadau, cysylltwch â’n Tîm Cyswllt Cymunedol ar
- 0300 1238084
- cymunedol@adra.co.uk
Bydd pob holiadur sydd yn cael ei gwblhau gyda’r cyfle i ennill gwobrau ariannol o £50, £25 a £10. Edrychwn ymlaen at glywed gennych!
Y dyddiad cau ar gyfer yr ymgynghoriad hwn yw 08 Ionawr 2021.