
Cymeradwyo cynllun pum mlynedd ar gyfer Academi Adra
Mae aelodau ein Bwrdd wedi cymeradwyo cynllun i dyfu Academi Adra dros y pum mlynedd nesaf, gan adeiladu ar lwyddiant y rhaglen dros y blynyddoedd diwethaf.
Fe’i sefydlwyd yn wreiddiol ym mis Chwefror 2021 i ddarparu cyfleoedd gwirfoddoli, ond fe’i datblygwyd i ddarparu cyfleoedd hyfforddiant a swyddi i denantiaid a phobl leol.
Mae’r ffocws wedi bod yn bennaf ar ddatblygu a chyflwyno cyrsiau adeiladu, gyda chyrsiau eraill wedi’u datblygu o gwmpas cefnogi pobl, yn ogystal â gwasanaethau cwsmeriaid a sgiliau gweinyddol.
Mae’r cyrsiau diweddaraf wedi canolbwyntio ar ddatblygu sgiliau yn y diwydiant cynnal a chadw tiroedd, a chyflwynwyd y cwrs cyntaf fis Medi diwethaf.
Hyd yma:
• Mae 164 o unigolion wedi cael cymorth gyda hyfforddiant galwedigaethol
• Cyflwynwyd 24 o gyrsiau
• Rydym wedi gweithio gyda dros 30 o sefydliadau partner/contractwyr
• 36 o bobl yn cael eu cefnogi gyda lleoliadau gwaith cyflogedig
• Mae 33 o bobl wedi dod o hyd i waith neu brentisiaeth
• Cofrestrodd 380 o bobl i gymryd rhan mewn cyrsiau.
Dywedodd Ceri Ellis Jackson, Arweinydd y Rhaglen: “Rydym yn wirioneddol falch o’n cyflawniadau hyd yma o ran cefnogi unigolion, yn enwedig y rhai o gefndiroedd difreintiedig i wella’r rhagolygon swyddi a magu hyder. Rydym wedi gweld â’n llygaid ein hunain effaith Academi Adra, gyda 15 o bobl wedi’u cyflogi o fewn ein cwmni ers 2021 ac mae 54% o’r rhai a gwblhaodd leoliadau gwaith â thâl trwy’r Gronfa Ffyniant Gyffredin wedi mynd i swyddi neu brentisiaethau eraill.
“Mae hynny yn ei dro nid yn unig yn helpu’r unigolyn, ond hefyd yr economi leol ac yn cefnogi busnesau a gwasanaethau lleol”.
Dros y pum mlynedd nesaf, bydd Academi Adra yn gweithio i gefnogi’r targed o gefnogi 700 o denantiaid a phobl leol i ddatblygu sgiliau; yn canolbwyntio ar ddarparu hyfforddiant galwedigaethol mewn sectorau lle rydym yn gwybod bod galw a byddwn yn gweithio’n agos gyda phartneriaid a grwpiau sydd â diddordeb i ddarparu profiad gwaith o ansawdd uchel.