Darparu gwasanaeth tu allan i oriau ar y cyd
Rydym yn falch o gyhoeddi fod Adra a ClwydAlyn yn cydweithio i ddarparu gwasanaeth brys ar y cyd y tu allan i oriau gwaith arferol.
Os bydd argyfwng yn digwydd y tu allan i oriau gwaith arferol, gall weithiwr hyfforddedig o’r naill sefydliad neu’r llall fynychu i wneud y sefyllfa’n ddiogel.
Bydd unrhyw atgyweiriadau dilynol yn dal i gael eu cynnal yn ystod oriau swyddfa gennym ni.
Sut mae’r gwasanaeth yn gweithio:
- Parhewch i ffonio ein rhif cyswllt arferol
- Bydd galwadau y tu allan i oriau yn cael eu hateb gan dîm Galw Gofal
- Os oes angen, bydd gweithiwr ar alwad o Adra neu ClwydAlyn yn mynychu
- Bydd y gweithiwr bob amser yn dangos ID swyddogol
Disgwylir i’r gwasanaeth ddechrau ar 9 Chwefror 2026.
