
Dathliadau Diwrnod VE draw yng Nghysgod y Coleg
Roedd yn galonogol gweld tenantiaid Cysgod y Coleg, a’u gwahoddion yn mynychu te pnawn i ddathlu Diwrnod VE ddoe.
Roedd yr ystafell gymunedol wedi cael ei drawsnewid mewn i ystafell o ddathlu gyda bynting, lluniau, posteri, addurniadau a cherddoriaeth o’r cyfnod. Gyda dros 30 o bobl yn mynychu, roedd yr ystafell yn llawn chwerthin a sgwrsio. Fel y gwelwch, roedd rhai wedi gwisgo fyny, ac roedd Rob wedi dod fel Winston Churchill ei hun!
Roedd digon o staff Adra wrth law i weini a golchi llestri, ond roedd y diolch i gyd lawr i’r tenantiaid. Nhw oedd wedi trefnu a phobi rhan fwyaf o’r danteithion eu hunain gan ddefnyddio ryseitiau o’r llyfr ‘We’ll Eat Again’. Sgwrs boblogaidd oedd faint o’r bwyd yma sydd dal yn cael eu mwynhau heddiw!
Roedd yn bnawn hwyliog iawn gyda’r tenantiaid a staff yn mwynhau.