Dathlu adroddiad ardderchog gan y rheoleiddwyr tai
Rydym yn dathlu adroddiad ardderchog gan reoleiddwyr tai Llywodraeth Cymru, sydd wedi ei gyhoeddi heddiw (dydd Iau, 11 Mehefin).
Yn y farn ddiweddaraf gan y rheoleiddwyr, cyflwynwyd graddfa gwyrdd i ni am Lywodraethu a Darparu Gwasanaeth a Chynaliadwyedd Ariannol. Dyma’r radd uchaf posibl sydd ar gael.
Mae nifer o gymdeithasau tai wedi mynd drwy’r fframwaith rheoleiddio a gydlynir gan Lywodraeth Cymru, gyda rhai’n cyflawni statws graddfa wyrdd. Fodd bynnag, ni yw’r unig Gymdeithas Tai hyd yn hyn sydd wedi cael statws graddfa wyrdd heb unrhyw argymhellion i wella gan y Rheoleiddiwr.
Daw’r farn hon yn dilyn asesiad naw mis lle darparwyd gwybodaeth gennym am ein perfformiad, cynllunio hirdymor, defnydd o data a sut rydym yn rheoli ein cartrefi.
Dywedodd Iwan Trefor Jones, ein Prif Weithredwr: “Mae’r rheoleiddwyr wedi cyflwyno adroddiad ardderchog i ni ac rydym yn falch dros ben o dderbyn adroddiad mor arbennig.
“Rydym yn rhoi llawer o sylw ar ein perfformiad fel sefydliad a sut rydym yn bwriadu sicrhau ein bod yn darparu tai o ansawdd sy’n ddiogel ac yn gyfforddus i’n tenantiaid mewn cymunedau ledled Gogledd Cymru.
“Yn allweddol i hyn yw sicrhau bod gennym gynlluniau cadarn i reoli ein cyllid, sut rydym yn buddsoddi yn ein tai presennol a sut rydym yn bwriadu adeiladu tai newydd yn y dyfodol. Ni allwn ofyn am ganlyniad gwell ac yn eu hadborth nododd y rheoleiddwyr ei bod yn rhyfeddol o brin cael adroddiad fel hyn heb unrhyw argymhellion ar gyfer gwelliant.
Dywedodd Sasha Davies, Cadeirydd ein Bwrdd: “Mae heddiw’n ddiwrnod balch iawn i ni ac mae’r adroddiad yn adlewyrchu’r gwaith anghygoel sy’n mynd yn ei flaen reit ar draws y busnes.
“Mae gwelliant parhaus yn rhan o’n DNA yn Adra. Rydym yn angerddol dros wella bywydau ein tenantiaid ac ni fyddwn yn gorffwys ar ein rhwyfau. Er nad oes argymhellion penodol i roi sylw iddynt, ni fyddwn yn llaesu dwylo a byddwn yn chwilio am ffyrdd y gallwn wella fel sefydliad.
