Photo of Elin, Adra's Affordable Homes Officer giving flowers to Mr and Mrs Whitten.

Dathlu cwblhau ar y Rhentu i Brynu cyntaf yng Ngwynedd

Mae Adra yn dathlu llwyddiant cwpl lleol ifanc ar gwblhau ar brynu eu cartref drwy’r cynllun Rent i Brynu, y cyntaf i gael ei gwblhau yng Ngwynedd.

Dywedodd Mr a Mrs Whitten: “Rydym ni mor falch o fod yn berchnogion ar ein tŷ ein hunan o’r diwedd.

“Cyn symud i fyw i’r tŷ yma roedden ni yn byw mewn tŷ rhent preifat.

“Heb y cynllun Rhentu i Brynu ni fysan wedi gallu prynu tŷ, drwy’r cynllun roedd gennym flaendal o £10,000 a gyda chyfraniad gan y Llywodraeth roedd yn bosib i ni brynu ein cartref, gyda morgais sydd fawr mwy na’r rhent oeddan ni yn ei dalu.

“Rydym wrth ein boddau fod y plant gyda ystafell wely’r un, ac rydym yn hapus iawn yma.”

Dywedodd Elin, Swyddog Tai Fforddiadwy Adra: “Rydym wrth ein bodd llongyfarch Mr a Mrs Whitten ar gwblhau eu taith Rhentu i Brynu yn llwyddiannus, y cyntaf i ni gwblhau yng Ngwynedd.

“Nid yn unig mae’r garreg filltir hon yn gyflawniad personol iddynt, ond hefyd yn foment balch i ni yn Adra. Mae’n adlewyrchu ein hymrwymiad i helpu pobl leol i gymryd eu camau cyntaf mewn i berchnogaeth cartref mewn ffordd sy’n fforddiadwy ac yn gynaliadwy.

“Dymunwn bob hapusrwydd iddynt yn eu cartref.”