
Dathlu Diwrnod Rhyngwladol y Merched
Mae hi’n Ddiwrnod Rhyngwladol y Merched yfory (Dydd Sadwrn, 8 Mawrth), cyfle i ddathlu cyfraniad sylweddol merched o fewn ein sefydliad a’r effaith enfawr y maent yn ei gael ar wella gwasanaethau i’n cwsmeriaid a helpu cymunedau i ffynnu.
Heddiw, mynychodd rhai o’n cydweithwyr gyfarfod rhwydwaith WISH (Women In Social Housing) yng Nghartrefi Conwy yn Abergele.
Mae WISH Gogledd Cymru yn fudiad ar gyfer newid cadarnhaol mewn cydraddoldeb rhywiol, a arweinir gan fwrdd dylanwadol ac ymroddedig sy’n benderfynol o gefnogi’r rhai sy’n gweithio yn y sector tai, yn enwedig menywod sy’n gweithio yng ngogledd Cymru, i gyrraedd eu gwir botensial.
Trwy gymuned groesawgar, gynhwysol mae’r rhwydwaith yn helpu mwy o fenywod i swyddi dylanwadol ac yn hyrwyddo’r sector dai fel maes sy’n llawn cyfleoedd a gyrfa o ddewis.
Yn sesiwn WISH heddiw roedd Tara Hussein yn siaradwraig wadd. Hi yw Cyfarwyddwr Gwasanaethau Hyfforddiant Goldmark. Thema’r digwyddiad oedd “Accelerated Action for Women – I have a story to tell”
Roedd y sesiwn yn dathlu lleisiau menywod a phwysigrwydd gweithredu i hybu cydraddoldeb i fenywod.
Dywedodd Tamany Wyn Clwyd-Jones, ein Cydlynydd Datblygu Busnes: “Mae’n neis cael merched o’n diwydiant yn dod at ein gilydd i ddathlu Diwrnod Rhyngwladol y Merched. Roedd hi’n gret gwrando ar Tahira yn trafod ei chefndir a syt mae hi wedi dod dros gyfnodau anodd yn ei bywyd.
“Dwyt ti byth yn gwybod beth mae pobl wedi mynd drwyddo a dani’n gallu dysgu o’n gilydd a dathlu ein gilydd”.