Photo of Meinir from Foster Wales and Sarah from Adra.

Dathlu dod yn gyflogwr sy’n cefnogi maethu

Rydym yn falch o gyhoeddi ein bod bellach yn gyflogwr sy’n hyrwyddo ein hymrwymiad i gefnogi gofalwyr maeth lleol a gwella cefnogaeth i’n gweithwyr ein hunain ar yr un pryd.

Mae Adra wedi ymrwymo i gefnogi eu gweithwyr, sydd hefyd yn darparu gofal maeth, trwy gynnig gwyliau ychwanegol â thâl ar gyfer eu hymrwymiadau maethu. Bydd hyn yn rhoi mwy o hyblygrwydd i ofalwyr maeth ymateb i unrhyw argyfyngau a all godi gyda maethu ac i fynychu cyfarfodydd, hyfforddiant ac i setlo person ifanc yn ei gartref newydd.

Gyda dros 5,000 o blant mewn gofal maeth yng Nghymru ar hyn o bryd, mae galw ar gyflogwyr i gynnig yr hyblygrwydd i ofalwyr maeth gyfuno maethu â gwaith arall. Yn ôl y Rhwydwaith Maethu Cenedlaethol, mae bron i 40 y cant o ofalwyr maeth yn cyfuno maethu â gwaith arall. Gall cael cyflogwr cefnogol wneud byd o wahaniaeth i deuluoedd maethu, gan eu galluogi i gydbwyso cyflogaeth gyda maethu plant. Mae cymorth gan eu cyflogwr hefyd yn helpu’r rhai sydd â diddordeb mewn maethu, i gymryd y cam cyntaf hwnnw.

Dywedodd Sarah Roberts, swyddog AD a Datblygiad Cyfundrefol:

“Yn Adra, rydyn ni’n gweithio gyda chalon gymdeithasol. Rydym am gael effaith gadarnhaol ar fywydau pobl, yn ogystal â’r gymuned ehangach. Nid oes ffordd well o gyflawni hyn na chefnogi’r rhai sy’n rhoi o’u hamser i helpu eraill sydd ei angen fwyaf, trwy ddarparu cartref cariadus a chefnogol pan fo’i angen fwyaf. Rydym wedi rhoi polisi maethu-gyfeillgar ar waith yn Adra i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i’n gweithwyr sy’n maethu, a gobeithio yn annog ac yn cefnogi eraill i ddod yn ofalwyr maeth cymeradwy eu hunain. Mae hefyd yn cydnabod y cyfraniad gwych y mae gofalwyr maeth yn ei wneud i gymdeithas yng Ngogledd Cymru ac i fywydau plant a phobl ifanc yn eu gofal.”

Ychwanegodd Meinir Llwyd, Swyddog Marchnata Rhanbarthol Maethu Cymru, y rhwydwaith cenedlaethol o 22 o dimau maethu awdurdodau lleol Cymru:

“Mae dod yn gyflogwr sy’n cefnogi maethu yn rhywbeth i fod yn wirioneddol falch ohono a diolchwn i Adra am eu hymrwymiad i gefnogi gofal maeth yng Ngogledd Cymru. Wrth i’r angen am ofalwyr maeth barhau i dyfu, mae estyn allan at gyflogwyr lleol i fod yn gyfeillgar i faethu yn un o lawer o bethau rydyn ni’n eu gwneud i gefnogi ein gofalwyr maeth yng Ngogledd Cymru. Rydyn ni’n gwybod pan fydd plant yn aros yn gysylltiedig, yn aros yn lleol a bod ganddyn nhw rywun i’w cefnogi am y tymor hir, rydyn ni’n gweld canlyniadau gwell. Felly, os gall cyflogwyr lleol gefnogi eu gweithwyr i ddod yn ofalwyr maeth, gall awdurdodau lleol helpu mwy o blant i aros yn gysylltiedig â’u gwreiddiau ac yn y pen draw eu cefnogi tuag at ddyfodol gwell.”

Mae Maethu Cymru wedi mynd ati gyda’r nod beiddgar o recriwtio dros 800 o deuluoedd maeth newydd erbyn 2026, i ddarparu cartrefi croesawgar i blant a phobl ifanc lleol.