Dathlu llwyddiant gwyliau cymunedol Ewro 2025
Dros y bythefnos ddiwethaf mynychodd aelodau o’n staff ddwy Ŵyl Gymunedol Ewro 2025, yn Ninbych a Phrestatyn.
Prif bwrpas y digwyddiadau oedd annog pobl ifanc i fod yn proactif o ran iechyd a lles, ac i ferched ifanc gael cyfle i ddathlu llwyddiant tîm pêl-droed merched Cymru. Roedd hefyd yn gyfle i hyrwyddo’r iaith Gymraeg.
Roedd y gwyliau wedi cael eu trefnu gan Active Cymru ac roeddem yn cydweithio gyda Gwasanaeth Ieuenctid Sir Ddinbych, Hamdden Sir Ddinbych a Menter Iaith Sir Ddinbych i hyrwyddo’r ddau ddigwyddiad.
Mae’n bwysig ein bod ni fel cwmni yn codi proffil tu allan i Wynedd. Braf iawn oedd cael sgwrsio gyda nifer o bobl yr ardal ar waith yr oeddem wedi ei wneud yno ac am brosiectau sydd ar y gweill.

