Llun o dair gwraig yn sefyll o flaen arddangosfa

Dathlu Pythefnos Gofal Maeth

Heddiw yw cychwyn Pythefnos Gofal Maeth (12-25 Mai), ymgyrch flynyddol fwyaf y DU i godi ymwybyddiaeth o faethu a dathlu’r effaith drawsnewidiol y mae’n ei gael ar blant a phobl ifanc.

Gydag arweiniad a chefnogaeth Maethu Cymru mae Adra yn falch o fod yn un o’r sefydliadau diweddaraf i ddod yn Cyflogwr Cyfeillgar i Faethu.

Ychydig wythnosau yn ôl roeddem yn falch o gyhoeddi ein bod bellach yn gwneud ymrwymiad i gefnogi gofalwyr maeth lleol a’r plant y maent yn gofalu amdanynt a gwella cefnogaeth i’n cydweithwyr a’n tenantiaid ein hunain ar yr un pryd.

Gyda dros 5,000 o blant ar hyn o bryd mewn gofal maeth yng Nghymru, mae galw ar gyflogwyr i gynnig yr hyblygrwydd i ofalwyr maeth gyfuno maethu â gwaith arall.

Yn ôl y Rhwydwaith Maethu Cenedlaethol, mae bron i 40 y cant o ofalwyr maeth yn cyfuno maethu â gwaith arall. Gall cael cyflogwr cefnogol wneud gwahaniaeth mawr i deuluoedd maethu, gan eu galluogi i gydbwyso cyflogaeth â maethu plant. Mae cefnogaeth gan eu cyflogwr hefyd yn helpu’r rhai sydd â diddordeb mewn maethu i gymryd y cam cyntaf hwnnw.

Credwn fod gennym rôl i’w chwarae, nid yn unig fel cyflogwr lleol ond hefyd fel Landlord mawr ar draws Gogledd Cymru, i gefnogi rhai o’r plant a’r bobl ifanc mwyaf bregus yn ein cymdeithas. Mae bod yn Landlord sy’n Gyfeillgar i Faethuyn golygu y byddwn yn cefnogi Maethu Cymru i chwalu rhai o’r mythau ynghylch dod yn deulu maeth – ni ddylai bod yn denant fod yn rhwystr i faethu, ac mae ein tai yn gartrefi i deuluoedd ar draws Gogledd Cymru. Byddwn yn gweithio mewn partneriaeth â Maethu Cymru.

Mae un o’n tenantiaid wedi rhannu ei phrofiad o fod yn ofalwr maeth:

“Dwi wedi bod yn denant Adra ers pedair blynedd ac wedi bod yn maethu ers tua tair. Ar adegau, mae’n anodd ond mae cael tenantiaeth gydag Adra wedi rhoi sicrwydd a sefydlogrwydd i mi sydd wedi helpu i dynnu unrhyw bwysau ychwanegol drwy gael cartref.

“Y peth gorau am faethu yw gallu helpu. Drwy faethu’r plentyn dwi’n gofalu amdani ar hyn o bryd, mae hi wedi gallu aros yn ei chymuned, mynd i’r un ysgol, cadw ei chriw o ffrindiau a dal i siarad Cymraeg. Mae aros yn lleol wedi bod yn hanfodol i roi sefydlogrwydd iddi.

“Does gan bob plentyn maeth yr opsiwn i aros yn lleol yn eu hardal. Mae rhai yn gorfod mynd cyn belled â’r Alban, ac felly colli pob trefn, cysylltiad a hyd yn oed eu hiaith eu hunain.

“Croesi bysedd y bydd pobl yn gweld hwn ac yn ei ystyried ….mae cymaint o blant angen gofal maeth”.

Rydym hefyd wedi cydweithio gyda Lisa a Meinir o Maethu Cymru i gynhyrchu fideo er mwyn ateb rhai o’r camsyniadau sydd gan denantiaid am faethu: