Defnyddio’r dechnoleg ddiweddaraf i waredu gwastraff adeiladu
Mae partneriaeth arloesol wedi’i chreu i arwain y ffordd wrth ddefnyddio technoleg i wahanu ac ailgylchu gwastraff o safle datblygiad tai newydd yng Ngwynedd. Credir mai hwn yw’r prosiect cyntaf yng Nghymru i gyfuno defnydd o godau QR, cyfrifo carbon mewn amser go-iawn, a chynnwys adrodd yn ôl ar werth cymdeithasol ar gyfer gwastraff adeiladu tai cymdeithasol.
Ym mis Chwefror, cymeradwyodd Pwyllgor Cynllunio Cyngor Gwynedd gynigion ar gyfer 34 o dai a 14 o fflatiau ar dir Cae Incline Fields yn Llandygai, yn ogystal â gwaith cysylltiedig – gerddi, mynediad cerddwyr a cherbydau, parcio, creu mannau chwarae a gwaith tirlunio.
Mae’r bartneriaeth yn cynnwys ni, Williams Homes (Bala) Ltd, Gwynedd Skips & Plant Hire Ltd a TroCymru.
Mae’r prosiect yn cyflwyno dull newydd, wedi’i arwain gan ddata, i reoli gwastraff adeiladu. Trwy ddefnyddio technoleg ddigidol, caiff deunyddiau eu dilyn o’r pwynt y caiff eu creu ar y safle hyd at eu cyrchfan derfynol, gan ddarparu tystiolaeth glir o:
- Cyfraddau gwahanu ac ailgylchu gwastraff
- Tunnell o ddeunydd wedi’i ddargyfeirio o safle tirlenwi
- Allyriadau carbon a osgowyd
- Gwerth cymdeithasol a gynhyrchwyd drwy gyflogaeth leol a chadwyni cyflenwi.
Mae’r peilot hefyd yn cefnogi’r paratoadau ar gyfer Rheoliadau Olrhain Gwastraff Digidol (Cymru) 2026, a fydd yn mynnu mwy o dryloywder a chyfrifoldeb yn y ffordd y câi gwastraff ei reoli ar draws y sector adeiladu.
Mae gwaith adeiladu eisoes wedi dechrau ar y safle ac mae’r llwyth cyntaf o wastraff adeiladu wedi cael ei symud oddi yno, gyda’r dechnoleg ddiweddaraf yn cael ei ddefnyddio.

Dywedodd Mathew Gosset, ein Dirprwy Gyfarwyddwr Eiddo: “Rydym wrth ein bodd yn gweithio mewn partneriaeth ar y peilot arloesol hwn yn ar ddatblygiad Cae Incline.
“Mae’r fenter hon yn ein galluogi i brofi ffordd fwy clyfar, fwy tryloyw o reoli gwastraff sy’n lleihau carbon, yn gwella perfformiad ailgylchu ac yn cyflwyno gwerth cymdeithasol go iawn yn lleol.
“Mae hefyd yn rhoi safbwynt cryf i ni cyn newidiadau rheoleiddiol yn y dyfodol, gan sicrhau ein bod yn barod i fodloni gofynion newydd wrth wella sut y byddwn yn cyflenwi ein datblygiadau”.
Dywedodd Steven Walker o Williams Homes (Bala) Ltd: “Mae hwn wedi bod yn gyfle cyffrous i ni yn Williams Homes (Bala) Ltd.
“Fel y datblygwyr ar y safle, rydym yn defnyddio’r sgipiau i wahanu amrywiaeth o ddeunyddiau, gan gynnwys pren sych a phren budr, deunydd pacio, plastigion caled, insiwleiddio solid pren ffibr, polystyren, gwastraff cymysg a metel.
“Rydym wedi bod yn cyfarfod â’r partneriaid i ddeall sut mae’r defnydd o’r dechnoleg yn gweithio a bydd gennym ddarlun clir o faint o wastraff sy’n cael ei gymryd oddi ar y safle. Bydd hyn yn astudiaeth achos prawf go iawn a gwelwn hyn yn cael manteision cadarnhaol iawn i’r amgylchedd, yn ogystal ag effaith gadarnhaol ar berfformiad a chynnydd ar y safle.
“Rwy’n siŵr y bydd llawer o gwmnïau adeiladu yn cadw llygad ar sut mae’r prosiect hwn yn datblygu.”
Dywedodd Huw Jones o Gwynedd Skips and Plant Hire Ltd: “Pan fydd sgip yn llawn, gellir sganio côd QR sydd wedi’i leoli ar y safle i hysbysu ni yn Gwynedd Skips and Plant Hire. Yna byddwn yn trefnu i lori ddod i’r safle a gwasanaethu’r sgip. Bydd ein gyrrwr yn sganio’r côd QR wrth gasglu’r sgip ac yna’n sganio eto wrth gyrraedd ein Cyfleuster Adfer Deunyddiau yng Nghibyn, Caernarfon.
“Mae’r broses hon yn cofnodi’r daith ac yn mesur y troed carbon sy’n gysylltiedig â thrafnidiaeth y gwastraff o’r safle i’n cyfleuster ailgylchu, gan ddarparu data amgylcheddol cywir ar gyfer y prosiect. Bydd pob sgip yn cael ei bwyso gan ddefnyddio ein pont bwyso i gofnodi tunelli’r deunyddiau a gasglwyd yn gywir. Yna caiff y deunyddiau eu cyfuno a’u paratoi ar gyfer ailgylchu neu brosesu pellach drwy lwybrau adferwyd a gymeradwywyd, gan sicrhau na anfonir unrhyw wastraff i safle tirlenwi.
“Mae manteision y dull hwn yn ymestyn y tu hwnt i reoli gwastraff yn gyfrifol. Fel cyflogwr lleol, mae nifer o’n staff yn denantiaid Adra, sy’n golygu bod y prosiect yn cefnogi cyflogaeth leol ac yn helpu i gadw buddsoddiad yn yr economi leol, gan greu effaith gylchredol gadarnhaol i’r gymuned. Trwy gyfuno olrhain gwastraff arloesol, monitro carbon ac osgoi anfon deunyddiau i dirlenwi, mae’r prosiect yn darparu gwerth amgylcheddol a chymdeithasol i’r rhanbarth.
Dywedodd Andrew Craig, Sylfaenydd a Chyfarwyddwr TroCymru: “Prin iawn yw’r dystiolaeth swyddogol am beth sydd yn digwydd i wastraff adeiladu ar ôl iddo adael safle.
“Ar y prosiect hwn, mae pob sgip yn cael ei dracio gan côd QR o’r foment y mae’n cael ei lenwi ar y safle hyd at ei gyrchfan terfynol – gyda phwysau, math deunydd, effaith garbon, a llwybr ailgylchu i gyd wedi’u cofnodi’n ddigidol.
“Mae hyn yn rhoi cofnod byw i Adra a Williams Homes o’r hyn a gafodd ei ailgyfeirio o safle tirlenwi, faint o garbon a osgowyd, a pha werth cymdeithasol a grëwyd yn lleol. Bydd yn cynnig y math o dystiolaeth y bydd darparwyr tai Cymreig yn ei hangen fwyfwy wrth i reoliadau olrhain gwastraff digidol ddod i rym – ac mae’r bartneriaeth hon ar flaen y gad.”

