Digwyddiad Sgiliau Gwyrdd ac Amgylchedd Adeiledig

Heddiw, cynhaliodd Tŷ Gwyrddfai, mewn cydweithrediad â Grŵp Llandrillo Menai a Phartneriaeth Sgiliau Rhanbarthol Gogledd Cymru, Digwyddiad Sgiliau Gwyrdd ac Amgylchedd Adeiledig digwyddiad allweddol a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru i siapio dyfodol sgiliau a hyfforddiant gwyrdd yng Nghymru. 

Wedi’i gynnal yn Nhŷ Gwyrddfai, yr hwb datgarboneiddio gyntaf o’i fath, daeth y digwyddiad â dros 50 o randdeiliaid ynghyd o’r sectorau tai, adeiladu, addysg a pholisi. Y nod oedd edrych ar sut mae’r ddarpariaeth hyfforddi bresennol yn cyd-fynd ag anghenion amgylchedd adeiladu Cymru yn y dyfodol – yn enwedig mewn meysydd fel ôl-osod, datgarboneiddio a thai. 

Agorwyd y bore gydag anerchiad gan Iwan Trefor Jones, Prif Weithredwr Adra, darparwr tai cymdeithasol blaenllaw yn y rhanbarth, a bwysleisiodd pa mor bwysig yw datblygu’r gweithlu a hynny ar frys oherwydd targedau datgarboneiddio uchelgeisiol, gan gynnwys Safon Ansawdd Tai Cymru 2023. 

Yna cafwyd nifer o gyflwyniadau difyr a llawn gwybodaeth: 

  • Amlinellodd Malcolm Davies, Uwch Reolwr Rhaglenni yn Llywodraeth Cymru, flaenoriaethau cenedlaethol ar gyfer tai ac adeiladu gwyrdd. 
  • Rhoddodd Sian Lloyd Roberts, Rheolwr Sgiliau Rhanbarthol Gogledd Cymru, drosolwg o rôl y Bartneriaeth Sgiliau Rhanbarthol wrth alinio hyfforddiant ag anghenion cyflogwyr. 
  • Cyflwynodd Rees Brown, Rheolwr Prosiect Porth Sgiliau Gogledd Cymru, y porth sgiliau sy’n rhoi cyfle i unigolion a chyflogwyr ddysgu am gyfleoedd datblygu sgiliau a chyflogaeth yng Ngogledd Cymru a chael mynediad atynt. 
  • Dangosodd Gareth Hughes o Grŵp Llandrillo Menai ddulliau arloesol o gyflwyno sgiliau gwyrdd a hyfforddiant ôl-osod. 

Roedd sesiynau grŵp rhyngweithiol yn rhoi cyfle i’r mynychwyr drafod heriau a chyfleoedd wrth ddarparu hyfforddiant, recriwtio a chadw staff ar draws y sector. Bydd yr adborth a gesglir yn llywio cynllunio a chyllido Llywodraeth Cymru yn y dyfodol ar gyfer rhaglenni sgiliau gwyrdd a’r amgylchedd adeiladu. 

Daeth y digwyddiad i ben gyda thrafodaeth panel, a hwyluswyd gan Bethan Williams-Price.  Roedd arddangosfa “Cwrdd â’r Arbenigwyr” yn cynnwys stondinau gan Busnes Cymru, adran Gaffael Adra, Busnes Cymru, Grŵp Llandrillo Menai, Busnes Gwynedd, Travis Perkins, Academi Adra a Phorth Sgiliau Gogledd Cymru. 

“Mae’r digwyddiad hwn yn gam hanfodol i sicrhau bod gan ein gweithlu’r sgiliau sydd eu hangen i ymdopi â heriau newid hinsawdd a’r galw am dai,” meddai Iwan Trefor Jones. 

“Rydym ni’n falch o fod yn gweithio gyda phartneriaid ledled gogledd Cymru i ddatblygu sgiliau a rhannu arbenigedd sy’n cefnogi datgarboneiddio ac yn helpu ein cymunedau i fanteisio ar gyfleoedd economi wyrddach.” ychwanegodd Gareth Hughes. 

Am ymholiadau gan y cyfryngau, cysylltwch â:
cyfathrebu@adra.co.uk