Diogelwch Tân: Batris Lithiwm-Ion
Oherwydd cynnydd sylweddol mewn tanau batris lithiwm-ion yn ystod y misoedd diwethaf yn y Deyrnas Unedig, rydym yn atgoffa ein tenantiaid o’r peryg o wefru batris lithiwm-ion.
Yn y Deyrnas Unedig cofnodwyd 8 marwolaeth ac 86 anaf o ganlyniad i danau beiciau trydan a sgwteri trydan yn 2024.
Roedd 66% o danau beiciau trydan/sgwteri o fewn cartrefi.
Mae’r Gwasanaeth Tân ac Achub yn y Deyrnas Unedig bellach yn ymateb i fwy na 3 thân batris lithiwm-ion y dydd.
Defnyddir batris lithiwm-ion yn helaeth mewn dyfeisiau o ffonau i gerbydau trydan, ond maent yn peri risg tân penodol os cânt eu difrodi, eu gwefru’n anghywir, neu ddod mewn cyswllt a thymheredd uchel.
Dyma gyngor diogelwch tân:
Sicrhewch eich bod chi yn:
- Defnyddiwch wefrwyr a gymeradwywyd gan y gwneuthurwr yn unig – prynwch un gan wneuthurwr ag enw da
- Gwifrwch ar arwynebau nad ydynt yn fflamadwy i ffwrdd o welyau, soffas a llenni.
- Monitro gwefru – osgoi gwefru dros nos neu heb oruchwyliaeth.
- Gwefrwch mewn mannau oer, sych i ffwrdd o olau haul uniongyrchol neu wresogyddion.
- Archwiliwch y batris am ddifrod cyn gwefru.
Peidiwch â gwneud:
- Peidiwch â defnyddio batris na gwefrwyr sydd wedi’u difrodi.
- Peidiwch â gorwefru – datgysylltwch unwaith y byddant wedi’u gwefru’n llawn.
- Peidiwch â gwefru e-feiciau na sgwteri yn eich ffordd o ddianc (coridor/ardal gymunedol)
- Peidiwch â gwefru ar ddeunyddiau sydd yn fflamadwy fel papur neu ffabrig.
- Peidiwch ag addasu na defnyddio offer gwefru sydd ddim yn addas.
