
Diogelwch tân – sychwyr dillad
Rydym yn atgoffa ein trigolion o bwysigrwydd defnyddio peiriannau sychu dillad yn ddiogel yn dilyn cynnydd mewn tanau peiriannau sychu dillad ar draws gogledd Cymru.
Dilynwch y camau syml hyn i gadw eich cartref yn ddiogel:
- Peidiwch â throi’r peiriant sychu dillad ymlaen cyn i chi adael y tŷ neu fynd i’r gwely.
- Cofiwch lanhau’r ffilter bob tro ar ôl defnyddio’r peiriant sychu dillad.
- Cadwch eich sychwr dillad wedi’i awyru’n dda, gwnewch yn siŵr fod y beipen awyru’n rhydd o ginciau ac nad yw wedi’i rhwystro na’i malu mewn unrhyw ffordd. Os oes gennych sychwr dillad cyddwysydd, sicrhewch eich bod yn glanhau’r uned cyddwysydd yn unol â’r llawlyfr gweithredu.
- Peidiwch â gorlwytho socedi – mae’r watedd uchel sychwr dillad yn golygu ei bod angen ei soced 13-amp ei hun. Cadwch lygad am unrhyw hoel llosgi neu losgiadau, gan gynnwys gwirio unrhyw wifrau trydanol gweladwy.
- Caniatáu bob amser i bob rhaglen sychu, gan gynnwys y ‘cylch oeri’, i’w chwblhau’n llawn cyn gwagio’r peiriant. Os byddwch yn stopio’r peiriant yng nghanol y cylch, bydd y dillad yn dal yn boeth.
- Peidiwch ag anwybyddu’r arwyddion rhybudd – os gallwch arogli llosgi neu os bydd dillad yn teimlo’n boethach ar ddiwedd y cylch, peidiwch â defnyddio’ch peiriant a gofynnwch i weithiwr proffesiynol ei wirio.