Disgyblion mewn prosiect creadigol i ddathlu Dydd Gŵyl Dewi
Mae disgyblion mewn tair ysgol gynradd ym Mangor wedi bod yn greadigol fel rhan o ddigwyddiad diwylliannol i ddathlu Dydd Gŵyl Dewi a Chymreictod.
Roeddyn yn llwyddiannus i dderbyn cyllid gan Lywodraeth Cymru i gynnal prosiect i nodi’r diwrnod a chomisiynwyd y cerddor Hywel Pitts i weithio gydag Ysgol Glancegin, Ysgol Hirael ac Ysgol Llandygai i greu cân o’r enw Adra Ni.
Dewisodd disgyblion o Flwyddyn 6 yr ysgolion geiriau ar gyfer y gân, gyda Hywel Pitts yn gyfrifol am gyfansoddi’r alaw.
Perfformiwyd y gân gan y disgyblion mewn digwyddiad arbennig a gynhaliwyd yng Nghanolfan Ieuenctid Maesgeirchen heddiw (Dydd Gwener, 27 Chwefror).
Dywedodd Llinos Bracegirdle, ein Cydlynydd Gwerth Cymdeithasol: “Mae hwn yn gyfle gwych i ddathlu balchder o fod yn Gymraeg ond hefyd i ymestyn yr iaith Gymraeg i’r gymuned.
“Rydym wrth ein bodd gydag ymateb yr ysgolion. Maent wedi bod yn greadigol iawn wrth ddyfeisio geiriau sy’n dangos beth mae cartref yn ei olygu iddyn nhw ac mae wedi bod yn wych gweld sut mae’r geiriau a gynhyrchwyd gan y disgyblion wedi arwain at y gân derfynol.
“Mae’n gân addas iawn i ni yn Adra ac mae hi wedi bod yn bleser gweithio gyda Hywel Pitts a’r disgyblion. Mae gwneud y pethau bychain fel hyn yn ffordd wych o hyrwyddo’r iaith a diwylliant Cymreig.”
