Llun o blant yn eistedd o gwmpas bwrdd yn chwarae efo lego.

Disgyblion yn cyfnewid ystafell ddosbarth am fyd adeiladu

Cafodd 25 o ddisgyblion o Ysgol Llanllyfni flas ar fyd adeiladu mewn digwyddiad arbennig a gynhaliwyd yn Tŷ Gwyrddfai, y ganolfan ddatgarboneiddio arloesol yng Ngwynedd yr wythnos hon.

Rhoddodd y digwyddiad, a drefnwyd gennym ni mewn partneriaeth â Reaching Wider a John Kelly Construction, brofiad gwerthfawr i ddisgyblion Ysgol Llanllyfni yn Nyffryn Nantlle, gan gynnig y cyfle iddynt gymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau sy’n gysylltiedig â sgiliau adeiladu, gan gynnwys gosod brics a phlastro.

Cynhaliwyd y sesiynau hyn gan Stuart Owen o Webber, un o brif noddwyr Tŷ Gwyrddfai. Cawsant gyflwyniad iechyd a diogelwch hefyd gan Lisa Kelly-Roberts o John Kelly Constructions.

Cafwyd sesiynau hefyd ar agweddau eraill ar adeiladu, gan gynnwys codi a danfon deunyddiau, defnyddio gwahanol ddeunyddiau i adeiladu strwythurau a defnyddio amrywiaeth o sgiliau meddal fel mesur a chyllidebu i ddeall pob agwedd ar y gwaith. Roedd John Kelly Construction hefyd yn awyddus i dynnu sylw at yr holl agweddau hyn fel bod gan y plant syniad o’r gwaith sy’n digwydd ar hyn o bryd yn Nhre Dafydd, Pen-y-groes, yn eu hardal leol.

 

Dywedodd Llinos Bracegirdle, ein Cydlynydd Gwerth Cymdeithasol: “Roedden ni wrth ein bodd yn peilota ein digwyddiad ysgol gynradd cyntaf yn Nhŷ Gwyrddfai, gan weithio mewn partneriaeth ag Ymgyrraedd yn Ehangach a John Kelly Construction.

“Roedd yn wych gweld y plant yn cael eu hysbrydoli gan yr ystod o weithgareddau ymarferol yr oedden ni wedi’u trefnu. Rwy’n gobeithio bod heddiw wedi ysbrydoli rhai o blant Llanllyfni ac yn gobeithio mai dyma’r cyntaf o lawer o ddiwrnodau llwyddiannus fel hyn”.

Dywedodd Rhian Richardson, Cyfathrebwr Allgymorth Stem ar gyfer Partneriaeth Ymgyrraedd yn Ehangach: “Roedden ni wrth ein bodd yn gweithio mewn partneriaeth ag Adra. Mae’n wych tynnu sylw at yr hyn sydd ar gael i bobl ifanc o fewn y diwydiant adeiladu, a dangos i blant lleol yr amrywiaeth o gyfleoedd sydd ar eu stepen drws.”

Mae Tŷ Gwyrddfai yn brosiect cydweithredol rhwng Adra, Busnes@LlandrilloMenai a Phrifysgol Bangor sydd wedi trawsnewid yr hen safle diwydiannol yn ganolfan ddatgarboneiddio a fydd yn sicrhau y bydd gogledd-orllewin Cymru ar flaen y gad o ran yr agenda ddatgarboneiddio, gan weithio gyda chymunedau a busnesau i ailwampio cartrefi dros y blynyddoedd nesaf.