Diwedd blwyddyn gyntaf ein Cynllun Corfforaethol
Ni allwn gredu ei bod hi’n 12 mis ers i ni lansio ein Cynllun Corfforaethol.
I’ch atgoffa, rydym wedi mabwysiadu pedair blaenoriaeth allweddol: gwella ein cartrefi, gwneud gwahaniaeth cadarnhaol, creu mwy o gartrefi a meithrin diwylliant ‘un tîm’ – maent i gyd yn dod o dan dri phrif thema – Cartrefi, Cwsmeriaid a Chwmni.
Mae tri Bwrdd Rhaglen Corfforaethol wedi’u sefydlu i arwain ar y gwaith – Daniel Parry, ein Cyfarwyddwr Eiddo a Datblygu yn arwain y Bwrdd Cartrefi; Sarah Schofield, Cyfarwyddwr Cwsmeriaid a Chymunedau ar y Bwrdd Cwsmeriaid; a Rhys Parry, Cyfarwyddwr Adnoddau a Delyth Williams, Cyfarwyddwr Pobl a Chyfathrebu yn cyd-arwain y Bwrdd Cwmni.
Mae gan bawb gynlluniau gwaith penodol ac mae’r cynnydd gyda’r gwaith hwn yn cael ei fonitro a’i herio gan ein Bwrdd, i sicrhau ein bod yn darparu’r gwasanaethau gorau posibl i’n cymunedau a’n denantiaid.
Dros y 12 mis diwethaf rydym hefyd wedi ymgynghori â Llywodraeth Cymru a’r pleidiau gwleidyddol, i sicrhau eu bod yn deall anghenion y sector tai a’n cymunedau – yn enwedig wrth iddynt baratoi eu maniffestos ar gyfer etholiadau’r Senedd ar Fai 7fed.
Wrth edrych ymlaen at ail flwyddyn y Cynllun Corfforaethol a bydd tonnau newydd o brosiectau (a pharhad rhai o brosiectau’r flwyddyn gyntaf).
Byddwn yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru newydd i gynyddu ein proffil a’n lefel o ddylanwad ymhellach a bydd llawer mwy o waith ar y cyd gyda chymdeithasau tai Gogledd Cymru eraill i rannu adnoddau a syniadau. Bydd hyn yn ein helpu gyda chyflwyno gwasanaethau i’n tenantiaid ledled y rhanbarth.
Cadwch olwg am erthyglau gan ein cyfarwyddwyr fydd yn rhoi diweddariad I chi am prosiectau sy’n dod o dan ein blaenoriaethau.
