Diweddariad tywydd

Gwasanaeth Trwsio  🔧

Gyda rhybudd tywydd melyn dal mewn grym, mae ein gwasanaeth trwsio wedi’i gyfyngu heddiw ac rydym yn rhedeg gwasanaeth argyfwng yn bennaf.

Byddwn mewn cysylltiad i ail-drefnu unrhyw apwyntiad sydd angen ei newid oherwydd y tywydd. 📆

Mae ein swyddfeydd ar gau heddiw, ond mae ein staff yn parhau i weithio o adra, rydym yma i’ch helpu os oes angen.

Os ydych angen cymorth, cysylltwch â ni drwy:

☎️ 0300 123 8084

✉️ ymholiadau@adra.co.uk

Cadwch yn ddiogel ac yn gynnes a mwynhewch yr eira.☃️

Rydym yn ymddiheuro am unrhyw anghyfleustra a achosir.