Dweud eich dweud ar ein cynlluniau ar gyfer y dyfodol
Rydym yn gwahodd ein tenantiaid a’r cyhoedd i ddweud eu dweud ar yr hyn y dylid ei gynnwys yn ein Cynllun Corfforaethol nesaf, a fydd yn llywio’r blaenoriaethau ar gyfer y busnes dros y pum mlynedd nesaf.
Mae blaenoriaethau’r cynllun corfforaethol presennol yn ymwneud â darparu profiad cwsmer rhagorol, darparu cartrefi o safon i fod yn falch ohonynt, datgarboneiddio cartrefi, cefnogi pobl a chymunedau i ffynnu a chryfhau’r busnes. Daw’r cynllun yma i ben ddiwedd mis Mawrth 2025, i’w ddisodli gan y cynllun newydd, a fydd yn cynnwys y blaenoriaethau o 2025-2030.
Rydym yn gwahodd pobl i ddweud eu dweud ar ba mor bwysig yw materion megis:
- effeithlonrwydd ynni
- atgyweirio yn y cartref
- diogelwch cymunedol/cartref
- cyngor ariannol
- sgiliau/hyfforddiant iddynt
Dywedodd Iwan Trefor Jones, ein Prif Weithredwr:
“Mae hi’n bwysig ein bod yn annog tenantiaid a’n partneriaid i rannu eu barn a dweud eu dweud ar sut rydym yn datblygu’r busnes, beth ddylai ein blaenoriaethau fod a sut rydym yn hyrwyddo anghenion pobl a chymunedau.
“Rydym eisiau gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i ansawdd bywydau pobl a mynd i’r afael â’r materion hynny sy’n bwysig i’n cymunedau. Rydyn ni eisiau darparu profiad cyson gwych i’n cwsmeriaid a bod yn sefydliad blaengar a chynhwysol y mae pobl eisiau gweithio gydag ef ac ar ei gyfer”.
“Bydd adborth o’r ymgynghoriad yn cael ei ystyried wrth i’r Cynllun gael ei ddatblygu yn ddiweddarach eleni”.
Mae holiaduron yn cael eu hanfon at denantiaid trwy neges destun. Gall pobl hefyd ddweud eu dweud drwy gwblhau arolwg ar-lein.
Bydd y cynllun newydd yn cael ei roi ar waith o 1 Ebrill 2025.