Llun pobl yn sefyll o flaen drws ac arwydd Tŷ Enfys

Ein cyfraniad elusennol o fudd i deuluoedd yn Ysbyty Gwynedd

Rydym wrth ein bodd bod arian elusennol a godwyd gennym wedi cyfrannu at greu llety i rieni a gwarcheidwaid plant sâl yn Ysbyty Gwynedd.

Mae Tŷ Enfys yn cynnig llety i rieni a gwarcheidwaid plant sy’n derbyn gofal a thriniaeth estynedig yn Ysbyty Gwynedd, gan gynnwys babanod sy’n derbyn gofal yn yr Uned Gofal Arbennig i Fabanod, gan ganiatáu iddynt aros yn agos at eu plant heb straen teithio yn ôl ac ymlaen.

Roedd y gwaith gwella gwerth £85,000 gan Gafael Llaw yn cynnwys lloriau newydd, peintio, dodrefn newydd ar gyfer pob ystafell, cegin newydd, ac ystafell gyfleustodau.

Yn ôl yn 2020, Gafael Llaw oedd ein Helusen y Flwyddyn, a chodwyd £3,489.69, a oedd i gyd yn rhan o’r gwaith gwella yn Nhŷ Enfys.

Dywedodd ein Prif Weithredwr, Iwan Trefor Jones, sydd hefyd yn Gadeirydd Gafael Llaw: “Yn Gafael Llaw, rydym yn gweithio’n agos gyda staff Ward Dewi i nodi beth a sut y gallwn ni fel elusen wella cyfleusterau i blant, pobl ifanc, a’u teuluoedd sy’n gorfod treulio amser yno.

“Roedd yn fraint ariannu prosiect Tŷ Enfys, adeilad ac adnodd sydd mor bwysig i’r teuluoedd, gan gynnig seibiant, heddwch a chysur yn ystod cyfnodau anodd.

“Rydym mor ddiolchgar am y rhodd elusennol a wnaed gan gydweithwyr yn Adra pan oedd Gafael Llaw yn elusen y flwyddyn. Mae adnewyddu Tŷ Enfys yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i deuluoedd sy’n aml yn wynebu arosiadau hir a heriol tra bod eu plant yn derbyn gofal. Gwnaeth cefnogaeth cydweithwyr Adra wahaniaeth mawr i’r ymdrechion codi arian”.