Rhedeg busnes o’ch cartref
Rydym yn cefnogi pobl sy’n hyfforddi a chynlluniau dychwelyd i waith ar gyfer ein cwsmeriaid a phreswylwyr lleol.
Rydym yn cydnabod bod busnesau sy’n cael eu rhedeg o’r cartref yn cael effaith bositif drwy gynyddu incwm a rhoi profiadau a sgiliau i’n cwsmeriaid.
Os ydych am redeg busnes neu gwmni o’ch cartref bydd angen i chi ofyn am ganiatâd gennym ni yn gyntaf. Mae yna sawl math o fusnes y gallwch ei redeg o’ch cartref heb achosi unrhyw anawsterau.
Fel arfer byddwn yn rhoi caniatâd ond rhaid i ni fod yn siŵr na fydd y busnes yn ymyrryd neu ddifrodi’r eiddo neu achosi niwsans neu aflonyddwch i eraill sy’n byw wrth ei ymyl.
Byddwn yn asesu pob cais yn unigol.
Efallai y bydd angen i chi gael caniatâd cynllunio, trwydded neu gofrestru.
Beth mae defnydd busnes yn ei olygu?
- creu rhywbeth neu ddarparu gwasanaeth sydd ddim ar eich cyfer chi neu eich teulu yn unig.
- eich bod yn cael rhyw fath o daliad am gynnyrch neu wasanaeth.
Pam fod angen rhoi gwybod i ni?
Mae angen i ni wneud yn siŵr bod y defnydd busnes yn rhesymol ac nad yw’n achosi unrhyw niwsans neu aflonyddwch i eraill sy’n byw wrth eich ymyl.
Beth yw’r mathau rhesymol o ddefnydd busnes mewn cartref?
Bydd bob cais yn cael ei asesu yn unigol.
Byddwn fel arfer yn rhoi caniatâd cyn belled â:
• bod eich busnes ddim yn gallu achosi niwsans neu aflonyddwch i berson arall sy’n byw yn eich ymyl
• nad oes yna unrhyw fyrddau hysbysebu neu arwyddion mawr o flaen yr eiddo a’ch bod wedi derbyn caniatâd ganddo ni
• nad ydych yn defnyddio offer cynhyrchu ar raddfa fawr
• nad ydych yn storio deunydd fflamadwy fel silindrau nwy propylen neu bwten
• eich bod wedi cael caniatâd cynllunio, trwyddedau neu gofrestru angenrheidiol
• nad ydych yn difrodi eiddo sy’n perthyn i ni
• eich bod yn gofyn am ganiatâd ganddom ar gyfer unrhyw welliannau neu newidiadau gofynnol mewn perthynas â’r busnes
• nad yw eich busnes yn torri amodau eich cytundeb tenantiaeth
Dyma enghreifftiau o ddefnydd busnes rhesymol o’ch cartref:
- busnes archebion drwy’r post
- glanhawr ffenestri
- gofal plant
- trwsio cyfrifiaduron
- gwasanaethau glanha
- gwaith gweinyddol
- addurno cacennau
- busnes dros y ffôn neu’r we
(nid yw hon yn rhestr gyflawn)
Gofyn am ganiatad i redeg busnes o fy nghartref
Bydd angen i chi wneud cais ysgrifenedig i redeg busnes o’ch cartref.
Gwneud cais ar-lein
Manylion cyswllt i anfon eich cais atom os nad yn gwneud cais ar-lein
Yn eich cais bydd rhaid cynnwys:
- enw llawn a manylion cyswllt
- manylion llawn o’r defnydd busnes
- unrhyw newidiadau/addasiadau i’r eiddo gan gynnwys arwyddion
- unrhyw siediau/adeiladau allanol gofynnol
- unrhyw gerbydau masnachol y byddwch yn eu defnyddio
- oriau busnes
- unrhyw sŵn tebygol neu anghyfleustra i gymdogion a sut y byddwch yn ceisio cadw hyn i lawr
- dogfennau ychwanegol i gefnogi eich cais
- gofynion cais cynllunio, trwydded neu gofrestru
NODYN – Rhaid cal caniatâd ysgrifenedig ganddom ni cyn cychwyn busnes o’ch cartref.
Tynnu caniatâd yn ôl
Mae gennym hawl i dynnu unrhyw ganiatâd sydd wedi ei roi ar gyfer rhedeg busnes yn ei ôl unrhyw dro neu osod amodau os bydd problemau yn codi pan fydd y busnes yn weithredol.