Nwy Radon

Mae eich diogelwch yn flaenoriaeth i ni, ac fel eich landlord, mae’n ofyniad cyfreithiol i sicrhau bod eich cartref yn ddiogel.

Fel rhan o’n hymrwymiad i ddiogelwch a chydymffurfiaeth, rydym yn ymgymryd â rhaglen deng mlynedd i brofi am radon ar draws ein cartrefi. Os yw eich cartref wedi’i dewis i gael profion, byddwn yn cysylltu â chi’n uniongyrchol gyda’r holl wybodaeth angenrheidiol a’r camau nesaf.

Rydym wedi penodi RPW Radon Cymru (RPW) i gynnal profion nwy radon yn ein cartrefi.

Beth i’w ddisgwyl:

  • Bydd RPW yn gosod dau fonitor radon bach (tua maint pod coffi) yn eich ystafell wely ac ystafell fyw.
  • Bydd angen i’r monitorau hyn yn aros yn eu lle am 3 mis.
  • Ar ôl hynny, bydd RPW yn eu casglu i’w dadansoddi ac yn rhannu’r canlyniadau gyda ni.
  • Bydd y monitorau’n cael eu gosod gyda bachyn bach ac mewn lleoliad allan o gyrraedd i osgoi ymyrraeth.

 

Cwestiynau Cyffredin