Rhedeg busnes o’ch cartref

Rydym yn gwybod bod rhai pobl yn rhedeg busnesau o gartref.

Dyma ganllaw byr i’ch helpu.

Cyn i chi ddechrau

Fel tenantiaid (deiliad contract), mae amrywiaeth o fusnesau y gallwch eu rhedeg o’ch cartref, ond mae angen caniatâd ysgrifenedig yn gyntaf.

Beth yw “defnydd busnes”?

Mae defnydd busnes yn golygu:

Creu cynnyrch neu gynnig gwasanaeth i bobl eraill, nid i’ch teulu’n unig.
Derbyn taliad am y cynnyrch neu’r gwasanaeth.

Pa fusnes sy’n rhesymol i’w redeg o gartref?

Fel arfer, gallwn roi caniatâd os:

  • Nad yw’r busnes yn achosi niwsans nac aflonyddwch i gymdogion.
  • Nad oes arwyddion mawr neu fyrddau hysbysebu y tu allan i’r cartref.
  • Rydych chi’n cael caniatâd ysgrifenedig gennym ni ar gyfer unrhyw waith neu addasiadau sy’n gysylltiedig â’r busnes.
  • Nad ydych yn defnyddio offer cynhyrchu ar raddfa fawr.
  • Nad ydych yn cadw deunyddiau fflamadwy (e.e. silindrau propan neu fwtan).
  • Rydych wedi cael caniatâd cynllunio, trwyddedau neu gofrestriadau angenrheidiol.
  • Nad ydych yn difrodi’r cartref.
  • Nad yw’r busnes yn torri unrhyw amodau yn eich cytundeb

 

Taflen Wybodaeth Rhedeg Busnes o’ch cartref